Hanner Marathon Caerdydd: Cyhoeddi enwau'r ddau fu farw
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddau redwr fu farw funudau ar ôl gorffen ras hanner marathon Caerdydd ddydd Sul wedi cael eu henwi.
Roedd Ben McDonald o Fro Morgannwg yn 25 oed ac roedd Dean Fletcher o Gaerwysg yn 32 oed.
Cafodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i drin un dyn am 12:18 brynhawn Sul, ac wedyn i drin yr ail ddyn 10 munud yn ddiweddarach.
Roedd y ddau wedi dioddef ataliad ar y galon.
Ar ôl iddyn nhw gael triniaeth brys yn y fan a'r lle, cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru gerllaw, lle bu farw'r ddau yn ddiweddarach.
Mae trefnwyr y ras, Run 4 Wales, wedi disgrifio'r digwyddiad fel "trychineb" ac yn dweud eu bod yn cydymdeimlo gyda theuluoedd y dynion.
Dywedodd Run 4 Wales hefyd eu bod nhw am adolygu trefniadau'r ras yn dilyn y marwolaethau.
Roedd Mr McDonald yn gweithio yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ac wedi cymhwyso fel athro.
Roedd yn rhedeg yr hanner marathon am y tro cyntaf, a hynny wrth ochr ei gariad, ei frodyr a'i chwiorydd-yng-nghyfraith.
Yn rhedeg am yr ail waith yn y ras, cafodd Mr Fletcher ei ddisgrifio gan ei deulu fel "gŵr a thad anhygoel".
Roedd wedi astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yno y cyfarfu â'i wraig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2018