Shaun Edwards i adael Undeb Rygbi Cymru ar ôl Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Bydd Shaun Edwards yn gadael ei rôl fel hyfforddwr amddiffyn Cymru ar ôl Cwpan y Byd 2019.
Mae Edwards, sydd wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland ers 2008, wedi gwrthod cytundeb newydd gydag Undeb Rygbi Cymru.
Mewn datganiad wedi'i roi drwy URC, dywedodd Edwards: "Ar ôl mwy na 10 mlynedd gyda Chymru, mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd iawn i'w gyrraedd ond ni fyddaf yn adnewyddu fy nghytundeb.
"Hoffwn ddiolch i Warren ac URC am y cyfle rwyf wedi ei gael gyda'r tîm cenedlaethol.
"Rydym wedi ennill pedwar teitl y Chwe Gwlad yn ystod fy nghyfnod gyda Chymru, ond rwy'n mawr obeithio ac yn credu bod y dyddiau gorau eto i ddod ac rwy'n canolbwyntio'n llwyr ar weld yr hyn y gallwn ei gyflawni yn Japan."
Fe gyhoeddodd Edwards ym mis Ebrill nad oedd am ymuno gyda Wigan Warriors, er iddo gyhoeddi'r llynedd y byddai'n dychwelyd i rygbi'r gynghrair.
'Parchu ei benderfyniad'
Bydd Gatland yn gadael ei rôl fel prif hyfforddwr yn dilyn Cwpan y Byd, gyda phrif hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac, yn cymryd ei le.
Yn dilyn y cyhoeddiad am Edwards, dywedodd Gatland: "Mae Shaun wedi bod yn rhan bwysig o dîm Cymru yn yr 11 mlynedd diwethaf, amser hynod werthfawr i rygbi Cymru.
"Mae'n braf y gallwn roi stop ar yr amheuaeth am ddyfodol Shaun gyda'r cyhoeddiad hwn a gallwn edrych ymlaen at baratoi'r garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan yn ddiweddarach eleni."
Ychwanegodd Wayne Pivac ei fod yn "parchu" penderfyniad Edwards i wrthod y cytundeb wnaeth y tîm hyfforddi newydd ei gynnig iddo.
Fe enillodd Cymru y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, a hynny am y trydydd tro o dan arweiniad tîm hyfforddi Gatland.
Yr wythnos hon, fe gyhoeddodd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde y bydd yntau'n gadael ei swydd gyda'r tîm cenedlaethol ar ddiwedd 2019 i ymuno â Leinster yn Iwerddon.
Bydd Cymru'n herio Georgia yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ar 23 Medi, cyn wynebu Awstralia, Fiji, ac Uruguay yn eu gemau grŵp.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2019