Elis-Thomas ddim yn cytuno â beirniadaeth o Radio Wales
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog celfyddydau'n anghytuno â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i feirniadu newidiadau i amserlen BBC Radio Wales.
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas nad oedd yn cefnogi safbwynt y dirprwy weinidog economi, Lee Waters, wnaeth godi pryderon yn swyddogol gyda'r arolygwr Ofcom.
Mae BBC Radio Wales yn newid eu hamserlen fel bod rhaglen foreol Claire Summers yn cymryd lle rhaglen newyddion Good Morning Wales.
Wrth ymateb i safbwynt Mr Waters, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas "nad dyma fy marn i o gwbl" ac nad oedd yn "ymyrryd mewn materion golygyddol am ddarlledu na fformat rhaglenni".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
'Nid dyma fy marn'
Fel dirprwy weinidog dros y celfyddydau, mae gan yr Arglwydd Elis-Thomas gyfrifoldeb am bolisi darlledu'r llywodraeth.
Mr Waters ydy'r dirprwy weinidog economi, ac mae'n gyfrifol am faterion cyfathrebu strategol.
Daw'r anghytuno wedi i Mr Waters gyfarfod â chyfarwyddwr Ofcom Cymru, Eleanor Marks, i drafod ei bryderon.
Mae BBC Cymru'n deall nad oedd Radio Wales ar yr agenda yn ffurfiol yn ystod y cyfarfod.
Wedi'r cyfarfod, dywedodd wrth y BBC y byddai'r newid yn golygu nad oes "rhaglen newyddion ddifrifol" ar gael yn y boreau yng Nghymru.
Roedd ganddo gefnogaeth y prif weinidog i godi'r mater gydag Ofcom.
Mae'r BBC yn mynnu y bydd rhaglen Claire Summers yn rhaglen newyddion, heb gerddoriaeth, pan mae'n dechrau darlledu ar 13 Mai.
BBC 'wedi ymroi i newyddion'
Mewn ebost, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Just i nodi nad dyma fy marn i o gwbl.
"Dydw i ddim yn ymyrryd mewn materion golygyddol am ddarlledu na fformat rhaglenni fwy nag y byddwn i'n ceisio dweud wrth Gyngor y Celfyddydau beth sy'n farddoniaeth!"
Roedd Mr Waters yn arfer cynhyrchu rhaglen Good Morning Wales pan oedd yn gweithio yn y BBC ar ddechrau'r 2000au, ac mae wedi beirniadu'r newidiadau yn gyhoeddus.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd BBC Cymru eu bod yn "ymroi yn llwyr i ddarparu newyddion i'n cynulleidfa eang yng Nghymru, saith diwrnod yr wythnos".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2019