Y Bencampwriaeth: Blackburn 2-2 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Yr Elyrch ar y blaen hanner amser ond Blackburn yn unioni'r sgôr yn yr ail hannerFfynhonnell y llun, @SwansOfficial
Disgrifiad o’r llun,

Yr Elyrch ar y blaen hanner amser ond Blackburn yn unioni'r sgôr yn yr ail hanner

Roedd yna ddigon o gyffro ym Mharc Ewood brynhawn Sul wrth i'r Elyrch chwarae gêm ola'r tymor oddi cartref yn erbyn Blackburn Rovers.

Y tîm cartref a sgoriodd gyntaf trwy Darragh Lenihan wedi camgymeriad gan golwr Yr Elyrch, Kristoffer Nordfeldt ond wedi 24 munud fe unionodd Yr Elyrch y sgôr wedi peniad llwyddiannus gan Baker-Richardson.

O fewn 11 munud fe gafodd Yr Elyrch gôl arall wedi peniad nerthol iawn i gornel chwith y gôl gan Oli McBurnie ac yr oedd Abertawe ar y blaen hanner amser.

Ond doedd Abertawe ddim ar y blaen am hir gan i Bradley Dack ddod â'r sgôr yn gyfartal.

A chyfartal oedd hi tan ddiwedd y gêm ond er nad oedd mwy o sgôr roedd yna ddigon o gyffro i'r cefnogwyr wrth i'r bêl wibio o un pen y cae i'r llall.

Tan heddiw roedd Abertawe wedi colli 14 o'u gemau oddi cartref yn erbyn Blackburn - y tro diwethaf iddynt eu curo oddi cartref oedd ym mis Medi 1971.