Arian i weddnewid neuadd oedd yn arfer bod 'y lle i ddod'

  • Cyhoeddwyd
neuadd victoria

Bydd un o adeiladau mwyaf adnabyddus tref Llanbedr Pont Steffan yn cael ei adnewyddu ar ôl i wirfoddolwyr sicrhau £160,000 mewn grant.

Roedd Neuadd Fictoria yn arfer bod yn le poblogaidd iawn yn nhroad y ganrif ddiwethaf, gyda chyngherddau, ciniawau ac eisteddfodau'n cael eu cynnal yno'n aml.

Yn ôl rhai o swyddogion y dref, mae'r adeilad wedi dirywio dros ddegawdau diwethaf oherwydd diffyg cynnal a chadw, ac erbyn hyn mae hi'n anodd cynnal digwyddiadau mawr yno oherwydd diffyg adnoddau.

Bydd y gwaith o osod system oleuadau a sain newydd, seddi, swyddfa docynnau a chyfleusterau eraill yn digwydd cyn diwedd y flwyddyn.

Ers chwe blynedd elusen o'r enw Ymddiriedolaeth Trawsnewid Llanbed sydd wedi bod yn rhedeg y neuadd.

Cafodd rhannau o'r adeiladu eu hadnewyddu yn 2014, gan gynnwys y tai bach a'r gegin, ond yn ôl yr ymddiriedolaeth bydd y buddsoddiad newydd o gronfeydd arian yr Undeb Ewropeaidd yn eu caniatáu i gynnig adnoddau sy'n gweddu'r 21ain ganrif.

Bellach mae grwpiau drama, gwersi Cymraeg a gigs bach yn cael eu cynnal yn y neuadd yn gyson, a bwriad yr ymddiriedolaeth ydy gallu cynnig cartref i fandiau a chwmnïau drama adnabyddus pan fyddan nhw ar daith.

'Adeilad eiconig'

Dywedodd Rob Phillips, Maer Tref Llanbedr Pont Steffan: "Mae'n adeilad eiconig yn y dre - mae pawb yn nabod y Victoria Hall.

"Mae wedi bod yn ganolfan gyda chymaint o ddigwyddiadau pwysig dros y blynyddoedd, ac mae 'na farchnad bob pythefnos yn y neuadd erbyn hyn.

"Mae'n bwysig i'r dre, a dwi'n falch bod hyn yn mynd i'w wneud e'n fwy addas ar gyfer tref fel Llanbed", meddai.

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei godi gydag arian pobl leol, yn ôl y cynghorydd Selwyn Walters, sy'n aelod o Gymdeithas Hanes Llanbedr Pont Steffan.

"Dechreuodd y neuadd yn y 19eg ganrif - erbyn hynny o'dd Llanbed wedi tyfu yn lle eithaf cyfoethog a pwysig.

"Mae e wedi bod o ddefnydd mawr i'r dre, achos Neuadd Victoria oedd y lle i ddod.

"O'dd e'n posh iawn, o'dd y clybiau yn cael eu 'balls' yma - y golf club ball, y tennis club ball. Ac o'dd 'da nhw supper room, o'n nhw'n gallu rhannu fe off o'r brif Neuadd.

"O'dd pob math o bethau'n digwydd yn yr ystafelloedd yma. Bu lot o godi arian yn ystod y Rhyfel Byd Cynta, cyngherddau, dramau, Eisteddfodau.

"Reit drwy i'r 1920au, 30au, 40au, y Victoria Hall oedd y lle i fod am unrhyw beth pwysig yn y dre."

'Gwneud tipyn o wahaniaeth'

Erbyn canol y 70au roedd y neuadd wedi gweld dyddiau gwell, ac roedd hi'n anodd cynnal digwyddiadau yn yr adeilad am ei bod hi'n rhy oer, a bod llefydd eraill i'w cynnal yn y dre.

Drwy gydol y 90au yr unig beth a oedd yn cael eu cynnal yn yr adeilad oedd ffeiriau hen bethau.

"Fe fydd yr adnoddau newydd yn gwneud tipyn o wahaniaeth", meddai Rob Phillips.

Eglurodd bod Neuadd Victoria yn "ganolfan i'r gymuned ers dros ganrif erbyn hyn, ac ers ei fod e wedi cael ei gymryd drosodd gan y Transition Llanbed Trust ers rhyw chwe blynedd ry'n ni wedi gweld lot o fwrlwm yn y lle."

"Mae wedi troi mewn i le sy'n fywiog iawn a da ni'n falch iawn bod y buddsoddiad yn mynd i wneud yn lle'n fwy addas ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau cerddoriaeth.

"Mae'n mynd i wneud Llanbed yn rhywle i bobl fynd, i ddod i'r dre, ac mae e hefyd yn mynd i ddarparu digwyddiadau i drigolion lleol sydd ddim ar gael o fewn y dref ar hyn o bryd"