Creu hanes yn 'Steddfod Pantyfedwen Llambed

  • Cyhoeddwyd
PantyfedwenFfynhonnell y llun, @HeiddwenTomos
Disgrifiad o’r llun,

Heiddwen Tomos yn ennill Coron a Medal Ryddiaith Eisteddfod Pantyfedwen Llambed 2018

Cafodd hanes ei greu yn Eisteddfod Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan ddydd Llun wrth i'r llenor Heiddwen Tomos ennill y fedal ryddiaith a hynny wedi iddi ennill y goron yn yr un eisteddfod ddydd Sadwrn.

Heiddwen Tomos, sy'n dod o Bencarreg, yw'r cyntaf yn hanes yr Eisteddfod i ennill y ddwy gystadleuaeth.

Ddydd Sadwrn cafodd Ms Tomos glod am ei chasgliad o gerddi ar y testun Ôl Traed.

Ymgeisiodd 16 am y goron ac roedd casgliad Heiddwen Tomos yn seiliedig ar fyd amaeth wrth iddi ganu yn rhannol i hen ŵr a oedd yn gobeithio y byddai etifedd yn ei olynu.

Dyma'r tro cyntaf i Heiddwen gystadlu am y goron ac mewn cyfweliad gyda Clonc 360 dywedodd fod cael bod yn fardd y mis Radio Cymru fis Tachwedd y llynedd wedi bod yn hwb iddi farddoni ymhellach.

Mae Heiddwen Tomos yn enw mwy cyfarwydd ym myd rhyddiaith.

Y llynedd cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Dŵr yn yr Afon a hi enillodd medal ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

Cafodd ei drama fuddugol 'Milwr yn y Meddwl' ei pherfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni.

'Golygfeydd credadwy'

Y dasg ar gyfer ennill medal ryddiaith Eisteddfod Pantyfedwen Llambed eleni oedd ysgrifennu dau ddarn o ryddiaith mewn ffurfiau gwahanol ar y thema 'Môr',

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Pantyfedwen Llambed
Disgrifiad o’r llun,

Heiddwen Tomos wedi iddi ennill y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Llambed ddydd Llun

Tra'n siarad â Cymru Fyw dywedodd y beirniad y Prifardd Hywel Griffiths bod y ddau ddarn a gyflwynodd Heiddwen yn haeddu pob clod.

"Monolog dramatig oedd un o'r darnau,"meddai, "lle roedd mab mewn ysbyty meddwl yn ymddiheuro am gynnau tân a oedd wedi anafu aelodau o'r teulu.

"Môr o gariad a gafwyd yn yr ail ddarn wrth i dad-cu ymdopi â magu dau ŵyr wedi damwain - un ohonynt yn anabl.

"Camp fawr Heiddwen yw creu golygfeydd credadwy - mae 'na gyfoeth yn y manylion bach ac mae'n llunio golygfeydd sy'n cyffwrdd â'r galon."

Roedd saith wedi cystadlu am y fedal ac roedd y safon yn "gyson dda" ategodd Mr Griffiths.

Enillwyd cadair yr Eisteddfod gan Philippa Gibson o Bontgarreg ger Llandysul.

Yn gynharach eleni cafodd tir newydd ei dorri yn Eisteddfod Powys wrth i Karina Davies ennill y goron a'r gadair - y person cyntaf erioed i wneud hynny.