Mam yn helpu cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis
- Cyhoeddwyd
Mae'r artist Sean Edwards wedi agor arddangosfa yn Fenis sy'n cynnwys perfformiad byw gan ei fam.
Mae Mr Edwards yn cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis, sy'n arddangos celf gyfoes o bob cwr o'r byd.
O'i chartref yng Nghaerdydd mae ei fam Lilly yn darlledu monolog i'r arddangosfa bob prynhawn.
Mae gwaith Mr Edwards yn tynnu ar ei fagwraeth dosbarth gweithiol yn y ddinas, a dywedodd fod llais ei fam yn gyferbyniad i "leoliadau breintiedig" y Biennale.
Mae Cymru wedi cael presenoldeb yn Biennale Fenis ers 2003, gydag artistiaid yn cael eu dewis i gynrychioli'r gelf gyfoes orau o Gymru.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal nes mis Tachwedd, a bydd gwaith Mr Edwards yn cael ei arddangos yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam yn 2020.
'Llais go iawn'
Dywedodd Mr Edwards: "Roedd hi'n bwysig iawn i allu clywed llais go iawn yn yr arddangosfa, llais nad yw o reidrwydd yn cael ei glywed yn y mathau hyn o leoliadau breintiedig.
"Dyw fy mam ddim yn gyfarwydd â siarad cyhoeddus, a thrwy ddefnyddio ei llais - y llais ei hun, a'i straeon, ei chwedlau - rwy'n gobeithio dechrau trafodaeth am fanylion bach fel hyn.
"Mae 'na bwysigrwydd cysylltu Cymru a Fenis hefyd. Mae rhywbeth yn digwydd yng Nghaerdydd ac yn cael ei brofi yn Fenis."
Yr enw ar arddangosfa Mr Edwards yw Undo Things Done, ac mae'n defnyddio cerfluniau, fideo, tecstilau a delweddau - yn ogystal â pherfformiad ei fam - i archwilio hanes, gwleidyddiaeth a lleoliadau dosbarth gweithiol.
Mae'r arddangosfa wedi'i greu mewn partneriaeth â Tŷ Pawb yn Wrecsam a'r curadur Marie-Anne McQuay.
Monolog 25 munud
Magwraeth Mr Edwards ar ystâd gyngor yn Llanedern yng Nghaerdydd sydd wedi ysbrydoli'r gwaith, ac roedd y penderfyniad i gynnwys ei fam - rhiant sengl heb unrhyw brofiad o berfformio - yn caniatáu iddo gysylltu ei fersiwn bersonol o Gymru â'r arddangosfa yn Yr Eidal.
Gweithiodd yr artist gyda National Theatre Wales i greu sgript ar gyfer ei fam i'w darllen.
Mae'r monolog yn cyfuno hanes teuluol â ffuglen mewn perfformiad o'r enw Refrain.
Bydd Ms Edwards yn darllen y sgript o'i chartref yng Nghaerdydd bob prynhawn nes i'r Biennale gau ym mis Tachwedd.
Mae'r perfformiad yn para tua 25 munud ac mae i'w glywed drwy holl 'stafelloedd yr arddangosfa yn Fenis.
Mae ymwelwyr ag arddangosfa Cymru hefyd yn dod ar draws celf weledol Mr Edwards.
Mae darnau hir o bren, wedi'i argraffu â delweddau sy'n gysylltiedig â'i ieuenctid, yn llenwi'r ystafell fwyaf.
Mae gan ystafell lai set deledu yn chwarae fideo sy'n dangos dominos yn cael eu cymysgu, gan ddwyn atgofion o'i dad yn chwarae'r gêm.
Mewn ystafell arall mae poster, a argraffwyd ar bapur newydd, sy'n dweud 'Free School Dinners' ac mae'n cofio sut roedd Mr Edwards yn un o'r unig fechgyn yn ei ysgol Gatholig i orfod ciwio i gael pryd o fwyd am ddim.
'Adlewyrchu hunangofiant'
Mae un o'r ystafelloedd mwyaf yn cynnwys tair blanced mewn lliwiau llachar, wedi'u pwytho i gynnwys llythyrau o benawdau papur newydd, ac sydd wedi'u hysbrydoli gan draddodiad creu blancedi y dosbarth gweithiol Cymreig.
Yn yr ystafell olaf mae llun mawr o ewinedd yr artist, yn cyfeirio at sut mae cnoi ewinedd yn arferiad etifeddol ac sy'n cysylltu ymwelwyr â gwreiddiau Mr Edwards a'i fam.
"Fy ymgais yw trio gwneud gwaith sy'n adlewyrchu hunangofiant," meddai Mr Edwards.
"Dwi wedi gwneud gwaith o'r blaen a edrychodd ar adeilad o'r enw canolfan siopa Maelfa ar stad Llanedern lle cefais fy magu.
"Roeddwn i eisiau datblygu ffordd o weithio gyda hynny, ac i greu corff o waith - cerfluniau, fideo, perfformiad byw - oedd yn ceisio edrych ar beth oedd e'n ei olygu i dyfu fyny yn y dosbarth gweithiol, gyda rhywbeth rwy'n galw cyflwr o beidio disgwyl llawer a sut mae modd troi hynny'n gasgliad o gerfluniau."
Cafodd Mr Edwards ei eni yng Nghaerdydd yn 1980 a graddiodd o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd cyn astudio MA mewn cerfluniaeth yn ysgol celfyddyd gain Slade.
Bydd Biennale Fenis yn para o 11 Mai hyd at 24 Tachwedd 2019.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2018