Gwobr gyntaf i glwb rygbi di-blastig o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Uplands RFCFfynhonnell y llun, Cyfeillion y Ddaear
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Richard Evans (chwaraewr), Peter Evans (cadeirydd y clwb) a Tom Edmunds (capten y clwb).

Un o glybiau rygbi'r de yw'r clwb chwaraeon cyntaf yng Nghymru i dderbyn gwobr gan Gyfeillion y Ddaear am eu gwaith i leihau'r defnydd o blastig un-tro.

Mae Clwb Rygbi Uplands Abertawe wedi derbyn y gydnabyddiaeth am gymryd camau breision i gyrraedd y nod.

Mae'r camau yna'n cynnwys cael gwared â chyllyll a ffyrc, gwydrau, cwpanau a phecynnau bwyd plastig a chynnig deunydd adnewyddadwy yn eu lle.

Wrth longyfarch Clwb Rygbi'r Uplands, dywedodd Sion Sleep o Gyfeillion y Ddaear Cymru ei fod yn gobeithio gweld y clwb yn "ysbrydoli timau eraill".

Dywedodd Peter Evans, sy'n gadeirydd y clwb sy'n chwarae yn Adran 3 Gorllewin Canol Undeb Rygbi Cymru: "Ry'n ni'n gwybod pa mor bwysig yw materion amgylcheddol i bobl ifanc heddi', a gan fod gyda ni dimau o oedran dan-7 i fyny, roedden ni am wneud ein gorau.

"Mae problem anferth gyda llygredd plastig ar hyn o bryd, a gobeithio mai ni fydd y cyntaf o nifer fawr o glybiau i gael y gydnabyddiaeth yma.

"Mae'r newid i fod yn ddi-blastig wedi bod yn gymharol hawdd, ac fe fydden i'n annog clybiau eraill i 'neud yr un peth."

Ychwanegodd Mr Sleep: "Llongyfarchiadau am fod y clwb cyntaf yng Nghymru i dderbyn y wobr yma.

"Roedd e'n bleser gweithio gyda nhw, a gobeithio bydd y newidiadau maen nhw wedi gwneud yn ysbrydoli timau eraill ar draws y wlad i ddilyn eu hesiampl."