Angen offer i 'gyflawni potensial' plant ag anableddau

  • Cyhoeddwyd
Maks ButrymFfynhonnell y llun, Aneta Butrym

Mae teulu bachgen saith oed sydd â pharlys yr ymennydd yn ceisio casglu arian i brynu ffram arbenigol i'w alluogi i sefyll a chwarae yn ei gartref.

Mae gan Maks Butrym ffram o'r fath yn ei ysgol - sy'n ei helpu i sefyll a chadw ei ddwylo'n rhydd ar gyfer gweithgareddau.

Ond nid yw'n hawdd ei gludo, ac mae polisi swyddogol yn golygu nad yw'r gwasanaeth iechyd yn gallu talu am un arall.

Yn ôl elusen mae 27 o blant ar restr aros am offer arbenigol yng Nghymru, gyda chyfanswm cost o £57,000.

'Mae o i fod yn sefyll'

Cafodd Maks ei eni ar ôl 25 wythnos yn pwyso 660g (1 pwys 7 owns), ac nid yw'n gallu sefyll ar ei ben ei hun.

Heb ail ffram adref, nis yw'n gallu chwarae gyda'i frodyr, meddai ei fam, Aneta.

"Mae o isio sefyll. Mae o isio gweld be' sy'n mynd y mlaen," meddai.

"Mae o i fod yn sefyll, nid yn cropian drwy ei fywyd."

Bu Maks yn yr ysbyty am bum mis cyntaf ei fywyd. Roedd yn ddall am ddwy flynedd gyntaf ei fywyd, a bu'n dioddef gyda chlefyd yr ysgyfaint am bedair blynedd.

Mae ei deulu, o Ewlo yn Sir y Fflint, wedi troi at elusen offer arbenigol Newlife er mwyn ceisio casglu £1,316 i dalu am ffram.

Mae 26 o blant eraill ar restr aros i gael offer fel cadeiriau olwyn, seti i geir a gwelyau arbenigol.

'Cyflawni potensial'

Dywedodd Carrick Brown o'r elusen bod plant gydag anghenion cymhleth "yn aml angen sawl darn o offer er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu potensial".

"Mae bod heb ffram adref yn golygu bod Maks yn gorfod methu allan ar oriau hollbwysig o therapi fyddai'n gallu gwella safon ei fywyd."

Dywedodd Ms Butrym y byddai'n gwneud byd o wahaniaeth i'w mab.

"Mae'n optimistaidd, dyna ydy ei natur, ond mae adegau pan mae'n anhapus, pan nad ydy o'n gallu gwneud rhywbeth," meddai.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nad oedd yn gallu darparu ffram ychwanegol oherwydd polisi cenedlaethol.

Ond dywedodd ei fod wedi cefnogi'r teulu drwy eu cyfeirio at yr elusen.