Seiclwr yn rhybuddio am beryglon delwedd mewn chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Oscar MingayFfynhonnell y llun, Oscar Mingay
Disgrifiad o’r llun,

Oscar Mingay yn ystod ei salwch

Mae beiciwr o Gaerdydd, sy'n aelod o Academi Cymru, yn rhybuddio am beryglon delwedd mewn chwaraeon.

Mae Oscar Mingay, 19 oed, yn delio ag anhwylder bwyta ac yn parhau i hyfforddi.

"Roeddwn yn gweld fy hun fel pwysau yn hytrach nag Oscar", meddai, gan ychwanegu bod rhai hyfforddwyr a rhieni yn cyfeirio at faint beicwyr heb wybod effaith hynny ar unigolion.

Mae Oscar yn cyfaddef nad oedd yn bwyta am ddiwrnod ac yn seiclo am bedair awr er mwyn colli pwysau.

Gyda chefnogaeth Seiclo Cymru mae Oscar, sy'n seiclo i dîm dan-23 Cymru, am helpu eraill i herio'r ddelwedd o "sut y credir y dylai beiciwr da edrych".

'Mewn man tywyll iawn'

Dechreuodd golli pwysau pan yn 15 oed gan beidio â bwyta brecwast ac weithiau peidio bwyta cinio hefyd.

Wedi iddo ddechrau colli pwysau roedd yn teimlo'n rhy flinedig i gymdeithasu â ffrindiau ac yn benysgafn.

"Roeddwn yn cerdded tuag at yr oergell, yn edrych ar y bwyd i gyd ac yn meddwl - na alla i ddim bwyta hwnna.

"Roedd fy lefel testosteron, mae'n debyg, yn is na un merch 12 oed."

Ffynhonnell y llun, Oscar Mingay
Disgrifiad o’r llun,

Oscar yn ystod ei salwch a heddiw

Wedi blynyddoedd o geisio llwgu ei hun, fe aeth maes o law i weld arbenigwyr ac fe ddywedodd wrth ffrindiau ac aelodau o'i dîm am ei anhwylder bwyta.

"Roeddwn i mewn man tywyll... oni bai am fy rhieni dwi'm yn meddwl y byddwn i yma."

Mae Oscar wedi parhau i seiclo drwy ei gyfnod gwella a hynny gyda chefnogaeth Seiclo Cymru a Chwaraeon Cymru.

Mae nawr yn gweithio gydag arbenigwyr bwyd, seicolegwyr a ffisiolegwyr - pobl y mae'n "hynod ddiolchgar iddynt".

Dyw Oscar ddim yn mynd mor bell â dweud bod delwedd corff yn obsesiwn ond dyw seiclwyr ifanc, meddai, ddim yn mynd am bum munud heb gyfeirio ato.

Dywedodd Anne Adams-King, prif weithredwr Seiclo Cymru: "Mae'n beth da bod Oscar wedi sôn am yr anhwylder gan y bydd hyn yn annog dioddefwyr eraill i ddelio â'r cyflwr.

"Rhaid i ni gofio bod y bobl yma yn ifanc - maen nhw dal i dyfu ac mae hynny yn wahanol i fod yn oedolyn."

'Ddim yn ddarlun cywir'

Dywed Dr Nicky Keay, meddyg sy'n arbenigo ar chwaraeon a dawns ac sydd wedi cyhoeddi gwaith ymchwil yn y maes bod amaturiaid, sy'n dymuno bod yn seiclwyr proffesiynol, yn fwy tebygol o gael problemau.

"Maent yn gweld delweddau o Chris Froome a Geraint Thomas yn ennill y Tour de France ac mae'r ddau yn hynod denau.

"Mae rhywun yn mynd i feddwl bod angen edrych fel yna os yn seiclwr gwrywaidd.

"Dyw'r hyn ry'ch yn ei weld mewn cylchgrawn seiclo, yn aml, ddim yn rhoi'r darlun cywir."

Ffynhonnell y llun, Oscar Mingay
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oscar am i fwy o ddynion siarad yn agored am anhwylderau bwyta

Dywed Oscar ei fod yn gobeithio un dydd y bydd yn cystadlu ar lefel rhyngwladol ond mae hefyd yn dymuno helpu eraill sydd wedi dioddef fel y mae wedi'i wneud.

Mae'n annog dynion ifanc i siarad yn agored ac yn onest am anhwylderau bwyta.