Galw i reoleiddio gwerthu tabledi colli pwysau arlein

  • Cyhoeddwyd
Eloise ParryFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Eloise Parry, 21 oed, yn Ysbyty Brenhinol Amwythig yn Ebrill 2015 ar ôl llyncu wyth tabled wenwynig

Mae angen gwneud mwy i reoleiddio gwerthu tabledi dros y we, yn ôl mam myfyrwraig a fu farw wedi iddi gymryd tabledi colli pwysau.

Bu farw Eloise Parry, a oedd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Glyndŵr, ym mis Ebrill 2015 wedi iddi gymryd tabledi oedd yn cynnwys y cemegyn diwydiannol dinitrophenol (DNP).

Rhybuddiodd Fiona Parry nad ei merch hi "yw'r cyntaf i farw, ac nid hi yw'r olaf".

Cafodd Bernard Rebelo ei garcharu am ddynladdiad am ei ran yn gwerthu'r tabledi i Eloise Parry.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bernard Rebelo ddedfryd o saith mlynedd o garchar am ddynladdiad

Wrth siarad gyda Good Morning Wales ar Radio Wales fore Mercher, cyfaddefodd Fiona Parry nad oedd yn ymwybodol bod ei merch yn cymryd tabledi colli pwysau.

Dywedodd Ms Parry: "Y tro cyntaf i fi ddarganfod hyn oedd wedi iddi farw.

"Doedd ganddi ddim problem gyda'i phwysau... y pwysau cynyddol mae pobl ifanc yn ei deimlo i fod yn berffaith wnaeth iddi deimlo bod angen iddi newid.

"Roeddwn yn gwybod ei bod hi'n teimlo fel yna, ond ddim yn gwybod beth oedd hi'n ceisio gwneud i ddelio gyda hynny."

'Eisiau i hyn stopio'

Dywedodd Ms Parry ei bod yn dal i ddygymod gyda marwolaeth ei merch: "Dwi ddim yn meddwl eich bod yn gallu dod dros rywbeth fel hyn.

"Weithiau mae modd ymdopi, ond diwrnodau eraill, dwi'n cwympo i ddarnau."

Yn ogystal, dywedodd Ms Parry ei bod hi'n poeni bod hi'n dal i weld DNP yn cael ei hyrwyddo a'i werthu ar wefannau fel Instagram ac Ebay.

"Dwi wir eisiau i hyn stopio," meddai.

"Dwi'n dymuno gweld mwy o reoleiddio i stopio'r peth, ond dwi'n gwybod na fydd hynny'n digwydd a dwi'n gwybod ei fod yn frwydr gyson i gadw'r cyffur oddi ar y farchnad.

"Nid hi yw'r cyntaf i farw, ac nid hi yw'r olaf."