Maniffesto Plaid Cymru am wrth-droi Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn ymgyrchu i wrth-droi Brexit gan ei fod yn bygwth cydweithrediad Ewropeaidd ar daclo newid hinsawdd.
Yn ei maniffesto ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop mae Plaid Cymru yn galw ar yr UE i sefydlu cytundeb sy'n anelu at hunangynhaliaeth lwyr o ran trydan adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae'r blaid yn galw hefyd ar i'r UE ddatblygu cronfa fuddsoddiad o 2020 ymlaen i hybu economi Cymru.
Mae Plaid Cymru yn cefnogi cael refferendwm arall ar Ewrop.
'Refferendwm Annibyniaeth'
Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud y dylai Cymru gynnal refferendwm ar annibyniaeth os yw Brexit yn digwydd heb etholiad arall.
Yn ystod eu hymgyrch etholiadol yng Nghaerdydd dywedodd Mr Price bod ei blaid yn targedu yn benodol pleidleiswyr Llafur sy'n teimlo eu bod wedi cael eu siomi gan Brexit.
Mae pob gwlad yn yr UE wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl o dan 25 oed yn cael cynnig gwaith, parhad yn eu haddysg, prentisiaeth neu hyfforddiant o fewn pedwar mis o gael eu gwneud yn ddi-waith neu adael addysg ffurfiol.
Un o addewidion Plaid Cymru yn y maniffesto yw gweithio tuag at weithredu'n llawn gynllun 'Gwarant i Bobl ifanc' yr UE.
Mae Plaid Cymru hefyd yn addo creu System Mudo Gymreig os yw mewn grym yng Nghymru, ond ar hyn o bryd maen nhw'n wrthblaid yn y Senedd a Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am bolisïau mudo.
'Cymru angen gwell'
Bydd Mr Price, AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn lansio maniffesto'r blaid ar fferm ger Caernarfon ddydd Llun, ac fe fydd eu prif ymgeisydd ar gyfer etholiadau Ewrop, Jill Evans, yn gwmni iddo.
Cyn ei ymweliad dywedodd Mr Price: "Mae San Steffan yn doredig ac mae Cymru angen well.
"Mae'r maniffesto a fyddwn yn ei lansio heddiw yn faniffesto sy'n nodi bod Cymru o bwys.
"Y gwir yw tra bod yr UE wedi buddsoddi yng nghymunedau Cymru mae San Steffan wedi ein gadael i lawr dro ar ôl tro.
"Dyna pam ein bod yn apelio am gefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol: er mwyn sicrhau Pleidlais y Bobl, er mwyn sicrhau bod Cymru yn cyfri' ac yn fwy na dim sicrhau fod Cymru yn aros yn yr UE."
Etholiadau Senedd Ewrop yng Nghymru
Mae wyth plaid yn ymgeisio am bedair sedd Gymreig yn etholiadau Ewrop ar 23 Mai sef Llafur Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Y Blaid Werdd, Change UK a'r Brexit Party.
Rhestrau ymgeiswyr y pleidiau
Llafur / Llafur Cymru: Jacqueline Margarete Jones, Matthew James Dorrance, Mary Felicity Wimbury, Mark Jeffrey Denley Whitcutt;
Ceidwadwyr Cymreig: Daniel Stephen Boucher, Craig James Robert Lawton, Fay Alicia Jones, Tomos Dafydd Davies;
Plaid Cymru: Jill Evans, Carmen Ria Smith, Patrick Robert Anthony, Ioan Rhys Bellin;
UKIP: Kristian Philip Hicks, Keith Callum Edwards, Thomas George Harrison, Robert Michael;
Y Democratiaid Rhyddfrydol: Sam Bennett, Donna Louise Lalek, Alistair Ronald Cameron, Andrew John Parkhurst;
Plaid Werdd: Anthony David Slaughter, Ian Roy Chandler, Ceri John Davies, Duncan Rees;
Plaid Brexit Party: Nathan Lee Gill, James Freeman Wells, Gethin James, Julie Anne Price;
Change UK - The Independent Group: Jonathan Owen Jones, June Caris Davies, Matthew Graham Paul, Sally Anne Stephenson.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2019