Yr Wyddfa... 3.30am

  • Cyhoeddwyd
Copa'r Wyddfa dan ei sang cyn iddi wawrioFfynhonnell y llun, Dafydd Coates

Os oes yna un llun sy'n profi pa mor brysur ydy'r Wyddfa efallai mai hwn ydi'r un - pobl yn ciwio ar y copa am hanner awr wedi tri y bore.

Ers blynyddoedd roedd Dafydd Coates eisiau mynd i ben y mynydd er mwyn tynnu llun o'r wawr yn torri.

Cerddodd i fyny gyda'i gamera a sach gysgu nos Sadwrn gyda'r bwriad o dynnu llun o'r sêr cyn aros dros nos i gael ffotograff heddychlon o belydrau cyntaf yr haul yn deffro'r byd islaw.

Ond ar ôl cerdded yr holl ffordd i fyny fe gafodd dipyn o sioc.

"Roedd o'n anhygoel. Ro'n i wedi meddwl cael llun astro, efo'r sêr a'r Milky Way ond roedd o'n amhosib achos roedd cymaint o bobl yno efo headtorches felly'n sbwylio'r llun."

Fe siaradodd gydag un o drefnwyr taith noddedig wnaeth ddweud bod 850 ohonyn nhw'n cerdded am y copa mewn grwpiau dros nos a ben bore.

Fe gysgodd Dafydd Coates, sy'n byw yn Llangefni ac sy'n ymddiddori mewn ffotograffiaeth, am gwpwl o oriau cyn codi i dynnu llun o'r wawr.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Coates
Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Dafydd Coates i gael llun bendigedig o'r wawr wedi'r cyfan - ond tu hwnt i ffrâm y llun mae cerddwyr yn disgwyl i gamu ar y copa

"Nes i ddim cael llawer o gwsg - roedd cymaint o bobl yn cerdded heibio. Pan nes i godi roedd pobl dal ym mhobman.

"Ro'n i am roi'r tripod fyny a chael long exposure ond doeddwn i methu. Yn y diwedd nes i ofyn i bawb symud o'r copa am funud dim ond i fi fedru cael llun.

"Dwi wedi bod eisiau tynnu'r llun ers blynyddoedd ac ar ôl yr holl ymdrech i gerdded fyny ganol nos roeddwn i reit siomedig... ond dyna ni, mae gan bawb hawl i fod yno."