Achos llofruddiaeth: 'Roeddwn yn ei haddoli hi'

  • Cyhoeddwyd
Teresa GarnerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Teresa Garner ym mis Hydref y llynedd

Mae dyn o Sir Fflint, sy'n cyfaddef iddo ladd ei bartner gyda mwrthwl fis Hydref diwethaf, wedi dweud nad oes ganddo unrhyw gof o'r digwyddiad, na chwaith o wneud galwad 999 yn dweud ei fod yn credu ei bod wedi ei lladd.

Mae John Garner, 51 oed, o Ben-y-Ffordd, Treffynnon yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ond yn cyfaddef dynladdiad.

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug, fod y diffynnydd wedi bod yn yfed yn drwm am ddiwrnodau, gan ddweud iddo ond dod i ddeall am yr hyn oedd wedi ei wneud i Teresa Garner pan ddaeth ei gyfreithiwr i'w weld yn y ddalfa.

Wrth roi tystiolaeth, yn aml yn ei ddagrau, dywedodd nad oedd yn teimlo cenfigen pan glywodd fod ei lys ferch Kimberley wedi ail gysylltu gyda'i thad biolegol, a'i fod ef hefyd wedi bod yn cyfathrebu gyda Teresa Garner ac yn ymweld â'r tŷ.

'Cyfnodau o drais'

Dywedodd, ar ôl gweld neges destun gan Stuart Jones ar ffôn ei wraig, ei fod wedi gofyn a oedd hi am fynd nôl gydag ef.

Dywedodd iddi ateb 'na' ac nad oedd ganddi unrhyw deimladau tuag at Mr Jones.

Yn ystod ei dystiolaeth fe wnaeth y diffynnydd gyfaddef fod yna gyfnodau o drais wedi bod tra ei fod mewn perthynas â gwahanol ferched yn y gorffennol.

Dywedodd yn achos Teresa Garner fod trais wedi digwydd o'r ddwy ochr.

"A ydych chi'n yn dweud celwydd", gofynnodd ei fargyfreithiwr Patrick Harrington QC. "Na," meddai wrth ymateb.

Wrth gael ei groes holi ynglŷn â phatrwm o drais dywedodd nad oedd hyn mor dreisgar ag oedd y merched yn honni.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Teresa Garner ei ganfod mewn tŷ yn Llys Dewi, Pen-y-ffordd

Cytunodd ei fod wedi treulio pedwar mis mewn carchar yn y gorffennol am ymosod ar un o'i gyn gariadon.

"Roeddech yn dreisgar yn gyson i'ch cyn partneriaid, yn doeddech?" gofynodd yr erlyniad.

"Dyna sut mae'n ymddangos," meddai. "Ond pe bai hynny yn wir ...pam fod nhw wastad yn dod yn ôl."

'Trwsio lloriau'

Ynglŷn â digwyddiadau 24 Hydref 2018, dywedodd nad oedd ganddo unrhyw atgof o gwbl.

Dywedodd y gallai ond meddwl fod mwrthwl yn y tŷ oherwydd bod Teresa Garner wedi mynnu bod yn rhaid iddo drwsio rhai o'r lloriau.

Gwadodd honiad nad oedd dim o'i le ar y lloriau, a gwadodd ei fod wedi mynd â'r mwrthwl i'r tŷ gyda'r bwriad o ymosod ar ei bartner.

Dywedodd: "Roeddwn yn ei haddoli hi," ac yna roedd yn crio wrth i fargyfreithiwr yr erlyniad John Philpotts ddweud: "Doeddech chi ddim yn ei haddoli i pan oeddech yn taro'i phen, nac oeddech?"

Mae'r achos yn parhau.