Change UK eisiau 'adfer rheswm' i wleidyddiaeth Prydain

  • Cyhoeddwyd
Jon Owen Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Jon Owen Jones a Change UK ydy gwyrdroi Brexit

Mae Change UK eisiau "adfer rheswm" i wleidyddiaeth Brydeinig, yn ôl prif ymgeisydd y blaid ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop.

Dywedodd Jon Owen Jones bod gwleidyddiaeth wedi "torri" a bod carfanau eithafol wedi cymryd drosodd yn y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr.

Dywedodd bod Change UK yn blaid un-pwnc sydd yn ymgyrchu dros refferendwm arall ar yr Undeb Ewropeaidd i geisio gwyrdroi Brexit.

Sefydlwyd y blaid, oedd yn cael ei hadnabod fel The Independent Group, ar ôl i 11 aelod seneddol adael Llafur a'r Ceidwadwyr.

Fe wnaeth y grŵp gais i fod yn blaid gyda'r enw Change UK, a chafodd hynny ei gymeradwyo fis Ebrill, oedd yn golygu bod gan ymgeiswyr yr hawl i sefyll yn yr etholiadau Ewropeaidd.

'Dewis rhwng dau ddyfodol'

Dywedodd Jon Owen Jones, oedd yn AS Llafur dros Ganol Caerdydd rhwng 1992 a 2005, ei fod yn "benderfyniad anodd iawn" i adael ei hen blaid ar ôl bod yn aelod am 50 mlynedd.

Yn siarad cyn lansiad ymgyrch Gymreig Change UK yn Stadiwm Principality ddydd Llun, dywedodd Mr Jones wrth BBC Radio Wales: "Mae Ewrop yn symptom o'r broblem.

"Mae'r asgell dde a'r asgell chwith yn casáu Ewrop oherwydd ei fod yn rhwystr i'w syniadau ideolegol, annhebygol ac mae'n rhaid i ni aros yn Ewrop a dod at ein gilydd eto fel gwlad o amgylch gwleidyddiaeth synhwyrol."

Ychwanegodd: "Ar hyd fy oes wleidyddol, rwyf wedi bod o blaid aros yn Ewrop.

"Dwi ddim yn deall pam y dylwn i newid fy meddwl nawr ac rwy'n meddwl bod y cyhoedd wedi cael eu twyllo drwy bleidleisio am fecanwaith dychmygol o adael Ewrop oedd yn rhoi popeth i ni roedden ni eisiau pan nad oedd hynny byth, byth yn mynd i ddigwydd.

"Dydw i ddim yn credu bod Ewrop yn sefydliad perffaith.

"Nid dewis rhwng dyfodol delfrydol a dyfodol amherffaith yw hwn, ond dewis rhwng dau ddyfodol amherffaith, lle mae un o'r sefyllfaoedd yna yn llawer gwaeth na'r llall."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd The Independent Group ei ffurfio gan gyn-ASau Llafur a'r Ceidwadwyr

O'r wyth plaid sy'n sefyll yng Nghymru yn etholiadau Senedd Ewrop, mae pedwar - Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, y Blaid Werdd a Change UK - yn cefnogi refferendwm arall ar yr UE yn ddiamod.

Gofynnwyd i Mr Jones a oedd siawns y byddai'r bleidlais dros aros yn Ewrop yn cael ei rwygo.

Atebodd: "Rydym yn cytuno yn llwyr gyda Phlaid Cymru ynglŷn â'r peryglon o adael yr Undeb Ewropeaidd i economi Cymru, ond nid ydym yn deall pam bod hynny yn golygu bod Plaid Cymru eisiau gadael yr Undeb Brydeinig, byddai hynny yn achosi mwy o ddifrod."