Anrhydedd byd radio i gyn-olygydd Radio Cymru, Betsan Powys

  • Cyhoeddwyd
betsan

Mae cyn-olygydd BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw, Betsan Powys, yn un o bedwar sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth yr Academi Radio mewn seremoni ddydd Llun.

Y tri arall oedd Gwyneth Williams, Steve Taylor a Paul Chantler.

Dyma'r anrhydedd fwyaf sydd gan yr Academi, ac mae'n cael ei rhoi am gyfraniad arbennig ac ymroddiad i fyd radio a darlledu.

Derbyniodd Betsan Powys ei gwobr gan y darlledwr Huw Stephens o Radio Cymru a Radio 1 am "ei chyfraniad digyffelyb, brwdfrydedd, arweinyddiaeth a gweledigaeth gyda BBC Radio Cymru".

'Arweinydd campus'

Ymunodd Betsan Powys gyda'r BBC fel newyddiadurwraig dan hyfforddiant yn 1989 cyn gweithio fel gohebydd dau gyfrwng, dwyieithog.

Bu'n cyflwyno Newyddion S4C ac yn brif ohebydd ar raglen Ewropa o Frwsel yn ogystal ag ymuno gyda Huw Edwards i gyflwyno rhaglenni arbennig etholiadau.

Yn dilyn cyfnod gyda Panorama a chyflwyno Mastermind Cymraeg ar S4C, daeth yn olygydd Radio Cymru a BBC Cymru Fyw ym mis Mai 2013.

Bu yno tan iddi drosglwyddo'r awenau i Rhuanedd Richards yn hydref y llynedd.

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies mewn trydar: "Llongyfarchiadau mawr i Betsan - arweinydd campus. Gwobr gwbl haeddiannol am'i chyfraniad arbennig i Radio Cymru a Cymru Fyw."