Dem.Rhydd: Rhoi'r dewis i ddileu Brexit

  • Cyhoeddwyd
Sam Bennett

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi lansio eu hymgyrch ar gyfer yr Etholiadau Ewropeaidd.

Yn ôl eu prif ymgeisydd, Sam Bennett, fe fyddai Brexit yn golygu Cymru dlotach, lai rhydd, fydd â llai o rym dros ei thynged.

Maen nhw'n un o'r sawl blaid sy'n galw am refferendwm arall dros berthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y blaid eu bod nhw wedi bod "eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd ers y dechrau".

Gobaith y Democratiaid Rhyddfrydol yw bod eu llwyddiant diweddar yn etholiadau lleol Lloegr yn eu helpu i sicrhau eu ASE cyntaf o Gymru.

Mae Mr Bennett yn gyn-gadeirydd y Rhyddfrydwyr Ifanc ac yn gweithio i Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Dywedodd mai canlyniad Brexit fyddai Cymru dlotach, lai rhydd a fydd a llai o rym dros ei thynged.

"Nid wyf yn barod i eistedd yn ôl a gadael i hynny ddigwydd," meddai.

"Mae pob un bleidlais i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn bleidlais i roi diwedd ar Brexit."

Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds yw arweinydd y blaid ers 2017

Yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds, nhw yw'r "blaid gyntaf yng Nghymru i alw bod pobol yn cael y gair olaf a'r cyfle i ddewis dod â Brexit i ben".

"Ers y dechrau, rydyn ni wedi bod yn blaid sydd eisiau aros yn Ewrop."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru - fel Plaid Cymru, Change UK a'r Blaid Werdd - yn cefnogi refferendwm arall.

Etholiadau Senedd Ewrop yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae wyth plaid yn ymgeisio am bedair sedd Gymreig yn etholiadau Ewrop ar 23 Mai sef Llafur Cymru, Ceidwadwyr Cymru, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Y Blaid Werdd, Change UK a'r Brexit Party.

Rhestrau ymgeiswyr y pleidiau

Llafur / Llafur Cymru: Jacqueline Margarete Jones, Matthew James Dorrance, Mary Felicity Wimbury, Mark Jeffrey Denley Whitcutt;

Ceidwadwyr Cymreig: Daniel Stephen Boucher, Craig James Robert Lawton, Fay Alicia Jones, Tomos Dafydd Davies;

Plaid Cymru: Jill Evans, Carmen Ria Smith, Patrick Robert Anthony, Ioan Rhys Bellin;

UKIP: Kristian Philip Hicks, Keith Callum Edwards, Thomas George Harrison, Robert Michael;

Y Democratiaid Rhyddfrydol: Sam Bennett, Donna Louise Lalek, Alistair Ronald Cameron, Andrew John Parkhurst;

Plaid Werdd: Anthony David Slaughter, Ian Roy Chandler, Ceri John Davies, Duncan Rees;

Plaid Brexit Party: Nathan Lee Gill, James Freeman Wells, Gethin James, Julie Anne Price;

Change UK - The Independent Group: Jonathan Owen Jones, June Caris Davies, Matthew Graham Paul, Sally Anne Stephenson.