CPD Casnewydd i hyfforddi yn Stadiwm Dinas Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Casnewydd yn hyfforddi yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth baratoi ar gyfer rownd derfynol gemau ail-gyfle Adran Dau.
Mae'r Alltudion wedi bod yn chwilio am safle hyfforddi newydd gan fod gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud ar eu safle arferol yn Stadiwm Casnewydd.
Nid yw Casnewydd yn berchen ar stadiwm na chaeau hyfforddi, felly roedd rhaid i dîm Michael Flynn ganfod rhywle arall er mwyn paratoi ar gyfer gêm hollbwysig yn erbyn Tranmere Rovers yn Wembley.
Dywedodd Flynn bod hyn yn "weithred arbennig gan bawb yn CPD Caerdydd" a'i fod yn dangos "y fath o glwb ydyn nhw".
Yn ôl Cadeirydd Casnewydd, Gavin Foxall, roedd dod o hyd i safle hyfforddi newydd yn "dipyn o her".
"Yn amlwg nid oedd gan ein cyflenwyr lawer o ffydd ein bod ni am gyrraedd y rownd derfynol," meddai wrth y BBC ddydd Llun.
Mae Casnewydd yn rhannu Rodney Parade gyda rhanbarth rygbi'r Dreigiau a Chlwb Rygbi Casnewydd.
Ychwanegodd Flynn: "Hoffwn ddiolch yn bersonol i Neil Warnock, Ken Choo a phawb sy'n gysylltiedig â Chaerdydd am wneud hyn yn bosib. Mae'n dangos be sy'n bosib pan mae pêl-droed Cymru yn dod at ei gilydd."
Bydd Casnewydd yn herio Tranmere yn y rownd derfynol yn Wembley ar 25 Mai wedi i'r clwb o Lannau Mersi guro Forest Green Rovers nos Lun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2019