CPD Casnewydd yn gorfod chwilio am gaeau hyfforddi newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn chwilio am safle hyfforddi newydd er mwyn gallu paratoi ar gyfer rownd derfynol gemau ail-gyfle Adran Dau.
Mae'r Alltudion fel arfer yn hyfforddi yn Stadiwm Casnewydd, ond oherwydd gwaith cynnal a chadw nid yw'r safle ar gael.
Nid yw Casnewydd yn berchen ar stadiwm na chaeau hyfforddi, felly mae'n rhaid i dîm Michael Flynn ganfod rhywle arall er mwyn paratoi ar gyfer y daith i Wembley.
Dywedodd Cadeirydd y clwb, Gavin Foxall: "Yn amlwg nid oedd gan ein cyflenwyr lawer o ffydd ein bod ni am gyrraedd y rownd derfynol."
Mae Casnewydd yn rhannu Rodney Parade gyda rhanbarth rygbi y Dreigiau a Chlwb Rygbi Casnewydd.
Ychwanegodd Mr Foxall: "Mae'n dipyn o sialens ar y funud i sicrhau fod gan yr hogiau'r cyfleusterau sydd eu hangen er mwyn hyfforddi.
"Ond fel yr arfer, bydd y clwb yn dod at ei gilydd er mwyn sicrhau ein bod ni'n barod ar gyfer Wembley a phwy bynnag y bydden ni'n herio y diwrnod hwnnw."
Fe wnaeth Casnewydd sicrhau eu lle yn Wembley wedi buddugoliaeth ar giciau o'r smotyn yn erbyn Mansfield nos Sul.
Bydd yr Alltudion yn herio un ai Forest Green Rovers neu Tranmere Rovers yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle ar 25 Mai.
Mae Flynn bellach yn chwilio yn galed am safle newydd: "Rydw i newydd fethu galwad gan hyfforddwr Caerdydd, Ronnie Jepson ond dwi'n meddwl eu bod nhw wedi chwalu eu caeau nhw erbyn hyn.
"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i rywle yn fuan... byddwn i'n gwneud galwadau a gobeithio y daw pob dim at ei gilydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2019
- Cyhoeddwyd9 Mai 2019