Neil Warnock i barhau fel rheolwr Caerdydd y tymor nesaf

  • Cyhoeddwyd
Neil WarnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymunodd Warnock â'r clwb ym mis Hydref 2016

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau y bydd Neil Warnock yn parhau fel rheolwr y clwb y tymor nesaf.

Dywedodd cadeirydd yr Adar Gleision, Mehmet Dalman ei fod wedi cynnal "trafodaethau cadarnhaol" gyda Warnock a'r prif weithredwr, Ken Choo dros y 24 awr diwethaf.

Roedd perchennog y clwb, Vincent Tan, eisoes wedi dweud ei fod yn gobeithio gweld Warnock yn aros er mwyn rhoi'r cyfle iddo ennill dyrchafiad am y nawfed tro.

Yn ôl Dalman, nid oes unrhyw amheuaeth mai "Warnock yw'r dyn gorau ar gyfer y swydd".

Er bod gan Warnock, 70, flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb roedd hi'n aneglur os y byddai'n aros heibio diwedd y tymor hwn.

Ar ôl i Gaerdydd ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr fe ddywedodd Warnock ei fod angen sicrwydd y byddai'n gallu prynu "dau neu dri" o chwaraewyr newydd os am aros gyda'r clwb.

Ychwanegodd Dalman: "Rydyn ni gyd yn rhannu'r un weledigaeth. Fe awn ni amdani [dyrchafiad] eto."