Pamffledi Cymraeg i etholwyr Yr Alban wedi camgymeriad

  • Cyhoeddwyd
Welsh Labour leafletFfynhonnell y llun, John Finnie

Mae'r blaid Lafur yn Yr Alban wedi anfon cannoedd o bamffledi Cymraeg i bleidleiswyr yng ngogledd y wlad mewn camgymeriad.

Cafodd y dogfennau, oedd i fod â chynnwys Gaeleg, eu dosbarthu yn Ross-shire fel rhan o ymgyrch y blaid yn yr etholiad Ewropeaidd.

Mae'r blaid wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am ddefnyddio lluniau o ardal Tryfan mewn fideo yn sôn am eu gweledigaeth ar gyfer Yr Alban.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid eu bod "yn y broses o geisio darganfod sut yn union cafodd y pamffledi eu hanfon i'r ardal anghywir".