Ailosod arwyddion gwerth £7,500 o achos Cymraeg gwallus
- Cyhoeddwyd
Bydd arwyddion parcio yn Wrecsam wnaeth gostio bron i £7,500 yn gorfod cael eu hailosod oherwydd camgymeriadau ieithyddol.
Daw hynny wedi i nifer o gamgymeriadau ar un arwydd ger Parc Gwledig Dyfroedd Alun yng Ngwersyllt gael eu cywiro gyda beiro.
Fe wnaeth y cywirwr anhysbys gylchu nifer o'r camgymeriadau cyn ysgrifennu "ofnadwy" wrth eu hymyl.
Mae Cyngor Wrecsam bellach wedi dweud y bydd yn rhaid iddyn nhw ailosod yr arwyddion, sydd hefyd wedi eu gosod ger parciau gwledig Melin y Nant a Thŷ Mawr.
Roedd y camgymeriadau'n cynnwys camsillafu geiriau fel 'gyfrifoildeb', 'esgeulustog', a 'Preifarwydd'.
Cafodd y cywiriadau eu nodi gan un person ar Twitter, Neil Wyn Jones, a awgrymodd nad oedd yr arwyddion wedi cael eu gwirio cyn cael eu cynhyrchu.
Yn ddiweddar cafodd Cyngor Wrecsam eu beirniadu gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am anfon yr un llythyr gyda Chymraeg gwallus arno flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Dangosodd cais Rhyddid Gwybodaeth fod gosod yr arwyddion newydd wedi costio £7,404, a bod gosod y peiriannau i gyd wedi dod i gyfanswm o £37,288.
Yn ôl yr awdurdod lleol, mae disgwyl i'r tâl dyddiol o £1 am barcio godi tua £47,000.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam: "Rydyn ni'n ymwybodol o'r mater ac fe fyddwn ni'n ailosod yr arwyddion gyda fersiwn sy'n cynnwys y cyfieithiad Cymraeg cywir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017