Angen atal pleidiau asgell dde eithafol, medd Llafur

  • Cyhoeddwyd
Jackie Jones
Disgrifiad o’r llun,

Jackie Jones yw prif ymgeisydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop

Mae Llafur Cymru yn galw ar bleidleiswyr i gefnogi'r blaid yn etholiadau Senedd Ewrop er mwyn "atal pleidiau asgell dde eithafol rhag ennill mwy o seddau".

Dywedodd prif ymgeisydd y blaid yng Nghymru y byddai ASEau Llafur fyddai'n cael eu hethol yn "gweithio'n galed i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, diogelu safonau bwyd a lles anifeiliaid ac ymrwymo i heddwch a sefydlogrwydd parhaus ledled Ewrop".

Dywedodd Jackie Jones fod defnydd Llywodraeth Lafur Cymru o gyllid yr UE yn y gorffennol wedi talu am "filoedd o swyddi newydd".

Bydd hi'n ymuno â'r Gweinidog Materion Rhyngwladol, Eluned Morgan AC, ar daith ymgyrchu yn Llanelli, Caerfyrddin ac Aberhonddu ddydd Iau.

Wrth siarad cyn y daith, dywedodd Ms Jones: "Mae pob un o'r pedwar ymgeisydd Llafur yng Nghymru wedi ymrwymo i ddod â chyni y Torïaid i ben, gan fuddsoddi mewn cymunedau, a sicrhau bod y rheiny sydd â'r gallu i wneud yn talu eu cyfran deg."

Ond wnaeth hi ddim crybwyll y ffaith fod pob un o'r pedwar ymgeisydd hefyd yn cefnogi refferendwm arall ar berthynas y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r mater o refferendwm arall wedi bod yn ddadleuol o fewn y blaid - gyda llawer o ASau yn gwrthwynebu'r syniad.

Cytunodd corff llywodraethu Llafur fis diwethaf fod y blaid yn cefnogi refferendwm pellach, dim ond os na ellir sicrhau cytundeb Brexit "addas" neu etholiad cyffredinol.

Cynrychiolydd Llafur Cymru yn y cyfarfod hwnnw oedd yr Aelod Cynulliad Mick Antoniw a dywedodd er ei fod yn deall sefyllfa pedwar ymgeisydd y blaid "ni allwn anwybyddu'r ffaith fod y refferendwm wedi cael ei gynnal".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bleidlais yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, 23 Mai gyda'r cyfrif yn dechrau ar y nos Sul ganlynol

Yn ystod dadl ar raglen Sunday Politics Wales dros y penwythnos, gwrthododd Ms Jones yr honiad bod ei safiad yn groes i faniffesto'r blaid.

"Mae Jeremy Corbyn ei hun wedi dweud, fel y mae Mark Drakeford, fod yna opsiwn i fynd am refferendwm arall," meddai.

Mae trafodaethau trawsbleidiol rhwng Llywodraeth y DU a'r Blaid Lafur wedi bod yn cael eu cynnal i geisio darganfod ffordd ymlaen.

Mae Llafur yn amddiffyn un o'r pedair sedd Gymreig yn Senedd Ewrop.

Ar wahân i phan gollodd y blaid i'r Ceidwadwyr yn 2009, mae Llafur wedi ennill pob etholiad yng Nghymru ar gyfer Senedd Ewrop.