Ysgol Gymraeg arall i Sir y Fflint 'o fewn pum mlynedd'
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir y Fflint yn edrych i sefydlu ysgol Gymraeg ym Mwcle yn y pum mlynedd nesaf.
Datgelodd y sir eu bwriad wedi i bennaeth un ysgol leol ddweud bod "diffyg gweledigaeth" yno o ran datblygu addysg Gymraeg.
Yn ôl Iola Owen o Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon, mae "wir angen" arweiniad ar y sir.
Ond yn ôl y cyngor, maen nhw'n gwario miliynau ar wella a datblygu'r ysgolion.
Ysgol newydd
Yn 2018, fe ddywedodd ymgyrchwyr iaith bod angen ysgol gynradd Gymraeg ym Mwcle, wrth i'r Mudiad Meithrin geisio sefydlu cylch meithrin yno.
Cafodd y cylch hwnnw ei agor yn gynharach eleni.
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, bod hynny'n golygu bod y sir yn anelu at agor ysgol yno hefyd.
"Dwi wedi dweud yn ystod y dathlu [yn agoriad y cylch meithrin ym Mwcle dydd Mercher] bod Cyngor Sir y Fflint yn edrych i sefydlu ysgol newydd Gymraeg i blant cynradd yn nhref Bwcle a Mynydd Isa."
Pan ofynnwyd iddo pryd fyddai hynny'n digwydd, atebodd: "Pedair neu bum mlynedd. Mae'n rhaid edrych ar y nifer sy'n mynd i'r meithrin yn gyntaf."
'Angen gweledigaeth'
Eleni, mae Ysgol Gwenffrwd yn Nhreffynnon yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed.
Dyma oedd yr ail don o ysgolion cynradd Cymraeg i'w sefydlu yng Nghymru ar ôl Ysgol Gynradd Aberystwyth.
Fe arweiniodd hyn y ffordd at agor yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf, Ysgol Glan Clwyd yn Y Rhyl yn 1956.
Yn ystod y digwyddiadau i gofnodi hynny ddydd Iau, dywedodd Pennaeth Ysgol Gwenffrwd, Iola Owen, ei bod yn teimlo nad oes gan yr awdurdod lleol heddiw gystal gweledigaeth â'r rheiny oedd yn allweddol mewn grym 70 mlynedd yn ol.
"Yn anffodus, dydy datblygiad addysg Gymraeg yma yn Sir y Fflint ddim byd i gymharu â'r cyfnod hwnnw, na beth sy'n digwydd yn ne Cymru heddiw.
"Felly, mae gwir angen i rywun 'efo gweledigaeth fod yn fwy o arweiniad i ni i gyd yn y rhan yma o Gymru."
Mae ymgyrchwyr iaith Sir y Fflint dros Addysg Gymraeg hefyd yn dweud y dylid gwneud mwy i hyrwyddo ysgolion cyfrwng Cymraeg y sir.
Ond dywedodd y Cynghorydd Roberts bod "gweledigaeth fawr" yn y sir ar gyfer addysg Gymraeg.
Cyfeirodd at welliannau neu safleoedd newydd sydd ar y gweill i ysgolion Cymraeg yn Yr Wyddgrug, Shotton a'r Fflint, a dywedodd bod ysgolion cyfrwng Saesneg y sir hefyd yn fagwrfa bwysig i siaradwyr Cymraeg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2018