Reckless: Byddai atal grŵp Brexit Party yn 'gamgymeriad'

  • Cyhoeddwyd
Mark RecklessFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Reckless fyddai'n arwain y grŵp newydd

Byddai newid rheolau er mwyn atal cydnabyddiaeth swyddogol i'r Brexit Party yn y Cynulliad yn gamgymeriad, yn ôl arweinydd y grŵp arfaethedig.

Mae pedwar o gyn-ACau UKIP yn gobeithio sefydlu grŵp Brexit Party yn y Senedd.

Dywedodd Mark Reckless, fyddai'n arwain y grŵp newydd, na ddylai'r pleidiau eraill "geisio ein cloi allan o'r broses ddemocrataidd" gan gyfeirio at berfformiad y blaid yn yr arolygon barn.

Yn ôl Plaid Cymru a Llafur does gan y grŵp newydd ddim mandad democrataidd.

Adnoddau ychwanegol

Dydd Mercher fe wnaeth arweinydd y Brexit Party, Nigel Farage, ymweld â Bae Caerdydd er mwyn cyhoeddi fod pedwar AC wedi ymuno â'i blaid, sef Mr Reckless, Caroline Jones, Mandy Jones a David Rowlands.

Pe bai'r pedwar yn cael cydnabyddiaeth fel grŵp swyddogol byddai ganddyn nhw'r hawl i gael adnoddau ychwanegol, gan gynnwys staff a mwy o fewnbwn i fusnes y Senedd.

Byddai Mr Reckless, fel arweinydd y grŵp, â'r hawl i dderbyn £17,969 yn ychwanegol i'r £67,649 mae'n ei gael fel AC.

Group of four
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Nigel Farage groesawu'r ACau i'w blaid ym Mae Caerdydd ddydd Mercher

Mae BBC Cymru yn deall fod o leiaf chwech AC am gynnig newid y rheolau i atal ACau rhestr ranbarthol rhag newid i bleidiau sydd â dim cynrychiolaeth flaenorol yn y Cynulliad.

Yn ôl y Brexit Party, maen nhw wedi cydymffurfio â'r canllawiau angenrheidiol ar gyfer ffurfio grŵp.

Dywedodd Mr Reckless: "Rydym yn disgwyl i'r rheolau gael eu hufuddhau a'u gweithredu yn y ffordd arferol."

Gan gyfeirio at arolwg barn yng Nghymru oedd yn awgrymu fod gan y blaid gefnogaeth 33% o etholwyr, dywedodd: "Rwy'n credu mai'r realiti mewn gwlad ddemocrataidd lle mae un o bob tri yn cefnogi plaid, yna ni allwn geisio gwahardd grwpiau gwleidyddol.

"Rwy'n credu ei bod yn iawn i mi gredu y bydd y Llywydd yn gwneud ei swydd yn y modd cywir, yn deg ac amhleidiol, wrth weithredu gorchmynion sefydlog a rheolau'r Cynulliad."

Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Y Llywydd Elin Jones fydd yn penderfynu a fydd y grŵp yn cael ei ganiatáu

Mae disgwyl i unrhyw gais i newid y rheolau gael eu trafod ddydd Mawrth.

Mae Plaid Cymru wedi dweud na ddylai'r pedwar AC dan sylw "gael yr hawl i ffurfio grŵp na mynediad i adnoddau a chyllido yn y Senedd".

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr y byddai ACau'r blaid yn rhoi "ystyriaeth fanwl i unrhyw newidiadau swyddogol unwaith eu bod yn cael eu cyflwyno".