'Emiliano Sala wedi'i amddifadu fel ci' yn ôl ei dad
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfweliad cyn iddo farw, dywedodd tad Emiliano Sala fod y bobl ddylai fod wedi gofalu am y pêl-droediwr wedi ei "amddifadu fel petai'n gi".
Bu farw Emiliano Sala wedi damwain awyren ym mis Ionawr.
Mae arbenigwr hedfan wedi dweud wrth y BBC na ddylai'r hediad o Ffrainc i Gaerdydd fod wedi digwydd.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dweud bod y ddamwain yn "drasiedi ofnadwy" a'u bod yn ceisio gwneud popeth o fewn eu gallu i helpu'r teulu.
Bu farw Horacio Sala ddiwedd Ebrill heb wybod union achos marwolaeth ei fab yn niwedd Ionawr wrth deithio dros Fôr Udd.
Bum mis ers y digwyddiad trasig mae teulu Sala yn dal i geisio deall pam y cafodd ei hedfan o dan amodau anodd gan beilot oedd o bosib ddim yn gymwys i'w hedfan gyda'r nos.
Maen nhw hefyd am i rywun dderbyn cyfrifoldeb am y farwolaeth.
Dyw corff y peilot David Ibbotson ddim wedi'i ganfod.
Teithiodd rhaglen Wales Investigates i'r Ariannin i siarad â rhieni a chyfeillion agos Sala er mwyn canfod mwy o wybodaeth am y chwaraewr oedd newydd gael ei drosglwyddo i Gaerdydd o glwb pêl-droed Nantes.
Mae'r frwydr gyfreithiol i sefydlu a oedd yn chwarae'n swyddogol i Gaerdydd pan fu farw yn parhau.
Yn Progreso, y dre lle bu Sala'n byw, y digwyddiadau cyn ei farwolaeth sy'n mynd â bryd y trigolion.
Yn ôl Horacio Sala fe ddylai'r rhai oedd yn gysylltiedig â throsglwyddiad ei fab, gan gynnwys Clwb Pêl-droed Caerdydd a'i gynrychiolwyr, fod wedi gwneud mwy i sicrhau ei les.
"Roeddwn yn disgwyl ei ganfod yn fyw ond pan ddaeth y newyddion fod yr awyren yn y môr roedd hynny yn amhosib," meddai.
"Pam ei bod hi mor anodd iddyn nhw ddod o hyd i rywbeth oedd yn ddiogel?
"Fe adawon nhw ef i fod, fe adawon nhw ef i fod fel ci. Fe wnaethon nhw ei amddifadu."
Mae Alastair Rosenchein yn gyn-beilot profiadol. Wedi astudio'r amodau a phrofiad y peilot mae'n dweud na ddylai'r awyren fod wedi hedfan.
"Mae nifer o bethau yn fy mhoeni," meddai Mr Rosenchein.
"Hediad injan sengl oedd hi ar draws darn hir o ddŵr, mewn amodau rhewllyd yn y nos yn y gaeaf ac roedd hi'n debygol iawn y byddai'r awyren yn hedfan i gwmwl.
"Un o benderfyniadau mwyaf anodd y peilot yw peidio hedfan a dyna'r penderfyniad ddylai fod wedi cael ei wneud. Yn ddi-gwestiwn, dwi ddim yn credu y byddai y rhan fwyaf o beilotiaid wedi hedfan."
Ers y ddamwain mae nifer o gwestiynau difrifol wedi cael eu codi am brofiad Mr Ibbotson.
Mae BBC Cymru yn deall fod David Ibbotson yn lliwddall - cyflwr sy'n atal peilotiaid rhag hedfan wedi iddi dywyllu.
Pwy ddewisodd y peilot?
Roedd yna nifer o bobl ynghlwm â thrafodaethau'r trosglwyddiad ond mae'n llai eglur pwy oedd yn gyfrifol am daith olaf Sala.
Mae llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud bod sedd wedi cael ei gynnig iddo ar hediad masnachol ond yn lle hynny bod awyren breifat wedi cael ei llogi iddo gan yr asiant pêl-droed Willie McKay.
Doedd Mr McKay na'i fab Mark, oedd yn gweithredu ar ran Nantes yn y trosglwyddiad, ddim am gael eu cyfweld gan raglen Wales Investigates ond maen nhw wastad wedi dweud nad nhw a drefnodd yr awyren na'r peilot.
Mae Caerdydd wedi dweud bod ganddyn nhw bryderon mawr am y dewis o Mr Ibbotson i hedfan yr awyren.
Roedd Willie McKay â rhan yng nghamau cychwynnol y trosglwyddiad.
Mewn e-bost a anfonwyd ganddo at Sala mae'n cyfaddef rhoi'r stori mewn papur newydd er mwyn denu mwy o ddiddordeb yn y chwaraewr.
Dyw Mr McKay ddim yn asiant pêl-droed bellach ond mae'n cyfaddef iddo helpu ei fab Mark yn y trafodaethau am symud Sala i Gaerdydd.
Caerdydd: Cytundeb anorffenedig
Mae Caerdydd wedi dweud wrth Wales Investigates nad oedd trosglwyddiad Sala o Nantes wedi cael ei gwblhau ond eu bod yn gwneud popeth posib i helpu'r teulu yn eu galar.
Mewn datganiad dywedodd y clwb: "Wedi adolygiad i ganfod y ffeithiau mae'r cytundeb rhwng y ddau glwb yn glir: doedd y trosglwyddiad rhwng clwb Nantes a Chlwb Pêl-droed Caerdydd ddim wedi ei gwblhau.
"Roedd y cytundeb yn ddibynnol ar amodau ac yn nodi os oedd yna unrhyw un yn anfodlon â'r cytundeb byddai'n cael ei ddiddymu.
"Ar y pryd roedd angen trafod nifer o amodau ac roedd y trafodaethau yn parhau gydag asiant Emiliano.
"Roeddem wedi'n cyffroi gan y newyddion fod Emiliano yn paratoi i ymuno â Chaerdydd ond yn drasig bu farw cyn i hynny ddigwydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Nantes: "Mae Clwb Pêl-droed Nantes yn deall yn iawn wewyr teulu Emiliano Sala a'r camddealltwriaethau all ddeillio o'r cyfan.
"Roedd y clwb, fel y chwaraewyr, wedi ymrwymo i gefnogi Emiliano Sala o gyfnod ei arwyddo i Nantes yn 2015 tan iddo arwyddo dros Gaerdydd."
Emiliano Sala: The family's search for truth, BBC One Wales, 20:30, 20 Mai ac ar BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2019