Beirniadu newidiadau i newyddion o fewn amserlen S4C

  • Cyhoeddwyd
Rhodri
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglen Newyddion yn newid ei hamser ac yn cael ei chwtogi ar nos Wener

Mae cadeirydd pwyllgor diwylliant y Cynulliad wedi beirniadu newidiadau i amserlen S4C.

Bydd rhaglen Newyddion yn symud i 19:30 y flwyddyn nesaf, gyda rhifyn nos Wener yn gostwng i fod yn 10 munud o hyd.

Fel rhan o newidiadau eraill i'r amserlen bydd Pobol y Cwm yn symud i 20:00 a bydd rhaglen chwaraeon ar nos Wener.

Dywedodd Bethan Sayed AC bod yn "bwysig cael rhaglen newyddion lawn bob nos" ond yn ôl S4C bydd darpariaeth newyddion yn ehangu ar lwyfannau newydd.

Yn y cyfamser mae dirprwy weinidog diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi beirniadu safon newyddion yn yr iaith Gymraeg drwyddi draw.

'Pwysig i'n democratiaeth'

Ers mis Ebrill 2013 mae'r rhaglen newyddion nosweithiol wedi hawlio slot 21:00 y sianel.

O wanwyn 2020 ymlaen fe fydd hi'n symud i 19:30 ac yn parhau i fod yn hanner awr o hyd o nos Lun i nos Iau.

Bydd bwletin ychwanegol pum munud o hyd am 20:55.

Ond ar nos Wener rhaglen 10 munud o newyddion fydd yn cael ei darlledu er mwyn gwneud lle yn yr amserlen i sioe chwaraeon newydd.

Bydd rhifyn nos Wener Pobol y Cwm yn diflannu dan y drefn newydd, ond bydd rhaglen ychwanegol o'r opera sebon yn cael ei dangos ar nos Fercher.

Disgrifiad,

Dywedodd Bethan Sayed bod angen ehangu gwasanaethau newyddion yng Nghymru

Wrth ymateb i'r cynlluniau i gwtogi hyd rhaglen newyddion nos Wener, dywedodd Ms Sayed: "Mae'n bwysig cael rhaglen newyddion lawn bob nos er mwyn rhoi newyddion i bobl Cymru am yr hyn sydd yn digwydd yn ein gwlad.

"Mae'n ffordd i'r Cymry Cymraeg ddysgu am yr hyn sydd yn digwydd yn eu bywydau pob dydd, trwy gyfrwng y Gymraeg, ac iddyn nhw allu cyfrannu at y straeon hynny.

"Mae'n dwyn gwleidyddion fel ni i gyfrif bob nos, ac felly mae'n bwysig fod slot cryf newyddion yn aros i'r dyfodol gan ei fod mor bwysig i'n democratiaeth ni."

'Glastwreiddio newyddion'

Dywedodd Ms Sayed y dylai "unrhyw newid cael ymgynghoriad gyda'r gynulleidfa i weld beth yn union mae gwylwyr eisiau gweld gan S4C".

"Os oes cynlluniau i lastwreiddio beth sy'n digwydd o ran newyddion, a thynnu newyddion oddi ar yr agenda mewn unrhyw ffordd, yna byddwn ni fel pwyllgor diwylliant yn teimlo fod hynny yn rhywbeth i boeni amdani."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth S4C symud i'w pencadlys newydd - Yr Egin - y llynedd

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas ddydd Mercher bod ganddo "ddim cof o glywed newyddion dwys" ar fwletinau newyddion Cymraeg.

"Yr hyn sy'n bwysig i mi yw bod newyddion yn cael ei gyflwyno yn ddiddorol, ac rwy'n hoff iawn o newyddion Channel 4," meddai.

Ychwanegodd mai rhaglen frecwast Saesneg y mae'n gwrando arni, sef rhaglen newydd Claire Summers ar BBC Radio Wales.

Mae gweinidog arall Llywodraeth Cymru, Lee Waters wedi beirniadu amserlen newydd Radio Wales gan ddweud nad oes "rhaglen newyddion difrifol" ar gael yn y Saesneg yn y boreau yng Nghymru.

'Cynyddu'r gwasanaeth'

Mewn datganiad dywedodd S4C y byddai darpariaeth newyddion ar y cyfan yn cynyddu dan y cynlluniau newydd, a bod "grwpiau ffocws gyda gwylwyr ar draws Cymru" wedi ysgogi symud y rhaglen i 19:30.

"Gan mai dyma'r amser dywedodd y grwpiau ffocws oedd well ganddynt wylio newyddion, rydym yn hyderus y bydd yn cael croeso gan ein gwylwyr," meddai llefarydd.

"Ni fydd llai o ddarpariaeth newyddion - yn wir uchelgais S4C yw cynyddu'r gwasanaeth a chynyddu'r impact.

"Rydym yn trafod gyda'r BBC sut orau mae darparu gwasanaeth newyddion digidol trawslwyfanol, fel bod modd i wylwyr S4C dderbyn newyddion tu hwnt i amserlen darlledu linol.

"Rydym eisoes yn trafod gydag ITV sut mae esblygu gwasanaeth HANSH i gynnwys mwy o newyddion a materion cyfoes er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gwahanol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas bod ganddo "ddim cof o glywed newyddion dwys" ar fwletinau newyddion Cymraeg

Roedd tipyn o ffanffer ynghylch symud rhaglen Newyddion i 21:00 yn 2013, ond bu rhaid i'r rhaglen gystadlu â'r galw gan gynulleidfaoedd am ddramâu yn yr oriau brig.

Dywedodd S4C gallai'r slot newydd arwain at gynnydd yn nifer y gwylwyr.

"Rydym yn hyderus fod gosod ein prif raglen newyddion yng nghanol yr amserlen am ddenu mwy o sylw a gwylwyr i'r rhaglen, gan danlinellu pwysigrwydd newyddion i'n harlwy," meddai'r llefarydd.