Atgyfodi hen ddadl dros enw pentref Llansantffraid-ym-Mechain
- Cyhoeddwyd
Mae hen ddadl dros sillafiad pentref ym Mhowys wedi ei hatgyfodi wedi adroddiad newydd gan swyddogion y Comisiwn Ffiniau.
Yn 2008 fe gafodd y lythyren 't' ei thynnu o enw Llansantffraid-ym-Mechain wedi i Gyngor Powys ddweud bod y sillafiad - oedd yn dyddio o'r 1800au - yn anghywir.
Cafodd y sillafiad gwreiddiol ei adfer yn 2014.
Ond yn dilyn adolygiad o drefniadau etholiadol y sir, dolen allanol, mae adroddiad y comisiwn i weinidogion Llywodraeth Cymru yn argymell gollwng y 't' unwaith eto yn fersiwn Cymraeg yr enw.
Brigit - dyn neu dynes?
Cafodd y pentref ei enwi ar ôl eglwys oedd wedi ei chysegru i'r sant Celtaidd, Brigit.
Ond drwy gamgymeriad fe nodwyd mai dyn oedd Brigit, sy'n egluro pam fathwyd enw yn cynnwys y lythyren 't'.
Wrth argymell enwau'r wardiau yn dilyn yr adolygiad, mae swyddogion y comisiwn yn ffafrio Llansantffraid-ym-Mechain yn Saesneg, a Llansanffraid-ym-Mechain yn Gymraeg.
Mae'r cynigion yn groes i argymhellion Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sy'n nodi y dylid defnyddio un enw yn unig - a ffafrio'r fersiwn Gymraeg.
Dywed y Comisiwn Ffiniau na wnaethon nhw dderbyn unrhyw sylwadau mewn cysylltiad â'r argymhelliad yn ystod ymgynghoriad,.
Ond erbyn hyn mae cynghorwyr wedi ysgrifennu at y comisiwn yn mynegi pryder.
Dywedodd y Cynghorydd Gwynfor Thomas bod yna ddadl "gryfach" dros fabwysiadu'r enw Cymraeg "cywir".
Mae hefyd yn poeni bod nifer o arwyddion yn nodi enw'r pentref wedi eu difrodi dros y 10 mlynedd diwethaf wedi i rywrai losgi'r lythyren 't' ohonyn nhw.
"Beth bynnag eich barn ar yr enw, mae hynny'n annerbyniol," meddai.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol o fewn yr wythnosau nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2014