Taith seiclo i 'gwblhau gwaith' y cynghorydd Paul James
- Cyhoeddwyd
Mae cyfeillion cynghorydd gafodd ei ladd tra'n ymarfer ar gyfer taith seiclo elusennol wedi dweud y byddan nhw'n "cwblhau'r gwaith" ddechreuodd ef.
Bu farw Paul James, 61, mewn gwrthdrawiad ar ffordd ger Aberystwyth tra'i fod yn seiclo fis diwethaf.
Ar y pryd roedd y cynghorydd sir o Lanbadarn yn trefnu taith i godi arian ar gyfer dau ysbyty oedd wedi'i drin yn ddiweddar am drawiad ar y galon.
Yn dilyn trafodaethau gyda'r teulu, fe benderfynodd ffrindiau Mr James y byddan nhw'n cwblhau'r her 150 milltir er mwyn cyflawni'r gwaith o godi arian at achos da.
"Roedd Paul yn berson oedd byth am roi lan ar ddim byd, ac felly pan ddaeth e aton ni i wneud hwn ar gyfer gwasanaethau lleol, fe wnaethon ni gyd gytuno i wneud e," meddai Wyn Morris, un o'r seiclwyr.
"Dyw e ddim yn reid goffa, ond mae'n reid i gwblhau'r gwaith roedd e wedi'i wneud."
Bellach mae dros £13,000 wedi cael ei godi - ymhell dros y targed gwreiddiol o £10,000 - gyda'r arian yn mynd tuag at offer newydd i wardiau yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Bydd llwybr y daith yn mynd o un ysbyty i'r llall, gyda'r beicwyr yn teithio i'r de ddydd Sadwrn cyn dychwelyd i ganolbarth Cymru ddydd Sul.
Er mai 11 ohonyn nhw fydd ar y beiciau, mae Mr Morris yn ffyddiog y bydd eu diweddar ffrind hefyd gyda nhw'r holl ffordd.
"Mi fydd e gyda ni - dwi'n siŵr y bydd e'n rhoi help llaw i ni lan ambell ddringfa!" meddai.
"Bydd e'n rhywbeth i ni feddwl amdano, a dwi'n siŵr y bydd 'na wydraid yn cael ei godi nos Sadwrn er coffa iddo fe, a phan ddawn ni 'nôl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019