Chwe pheth sydd RHAID i blant wneud yn Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Chwilio am bethau i wneud efo'r plant yn Eisteddfod yr Urdd? Ofn methu rhywbeth difyr ETO eleni gan nad oeddech chi'n gwybod amdano tan i chi siarad efo ffrind ar y ffordd allan?
Peidiwch â phoeni, mae Cymru Fyw yma i'ch helpu chi gydag ambell beth i'w roi yn y dyddiadur...
1. Torri esgyrn
Tydi cystadlu ddim i bawb - ond pa blentyn fyddai DDIM eisiau gwybod sut i greu sŵn asgwrn yn torri?
Y cwbl sydd ei angen ydi moron ac arbenigedd criw Into Film Cymru. Ewch draw i'w gweithdy Sain-Foley i ddysgu sut i wneud bob math o synau efo pethau sydd gennych chi o gwmpas y tŷ. Dechrau am 10am dydd Iau, Tipi Syr Ifanc.
2. Y Tudur Owen nesaf?
Am ychydig o hwyl a chwerthin, ewch draw i'r Lanfa i wrando ar jôcs gan gomedïwyr y dyfodol wrth i bobl ifanc rhwng 14 a 25 gystadlu am wobr y stand-yp gorau er cof am y digrifwr Gari Williams.
Hywel Pitts ydi'r beirniad ac mae'r cyfan yn dechrau am 12.00pm dydd Sadwrn.
3. Gwilym, Llareggub, Candelas a mwy... AM DDIM!
Mae LLWYTH o fandiau yn chwarae ar wahanol lwyfannau eleni.
Am y tro cyntaf, bydd gig ar y nos Wener - sef Gwilym, Chroma a Fleur de Lys - a Band Pres Llareggub fydd wrthi ar y nos Sadwrn.
Drwy'r wythnos bydd bandiau ar y Llwyfan Perfformio a Llwyfan y Lanfa ac eleni bydd y perfformiadau yn parhau tan yn hwyrach.
Mae'n ddiwrnod Tafwyl dydd Iau - gyda'r goreuon o'r brifddinas ar y Llwyfan Perfformio, er enghraifft Wigwam a DJ Gareth Potter, ac os am flas o Bollywood, bydd y Rajasthan Heritage Brass Band yno ddydd Gwener am hanner dydd ac am 4pm.
4. Hei Mei Gwynedd
Mae sesiynau dysgu Ukelele wedi bod yn boblogaidd yn yr Urdd ers ambell flwyddyn erbyn hyn - ond eleni yr athro fydd neb llai na Mei Gwynedd.
Mae'r cerddor, sy'n arwain Y Gerddorfa Ukelele, newydd ail-recordio Hei Mistar Urdd.
Ymunwch ag o ar Y Lanfa dydd Llun (3pm), dydd Mercher (2pm) a dydd Iau ( 3pm). Bydd hefyd ar Stryd Mr Urdd am 11am dydd Llun, Mawrth a Mercher ac am 10am dydd Iau.
Fe fydd o ar stondin Dysgu Cymraeg bob dydd am 1pm hefyd. Ewch i bob un o'r sesiynau a Gradd 8 amdani wythnos nesa'.
5. Pob chwarae teg...
Mae cystadlu yn ganolog i'r ŵyl wrth gwrs, ac mae rhywbeth at ddant pawb gan fod cystadlaethau yn digwydd drwy'r dydd, drwy'r wythnos, ar sawl llwyfan - ond dyma dair cystadleuaeth sydd fel arfer yn cael canmoliaeth yn y Pafiliwn: unawd allan o sioe gerdd (Sadwrn 16.30); Cerddorfa/Band dan 19 oed (Iau 18.30); cân actol ysgolion cynradd (Mercher 08.00).
6. D-I-S-G-O
Ydi'r straen yn dechrau dangos ar ôl wythnos o fynd o un rhagbrawf i'r llall?
Ewch draw i Stryd Mr Urdd am 5pm bod dydd, gwisgwch bâr o glustffonau, dychmygwch nad oes neb yn gwylio - ac ewch amdani yn y Disgo Tawel.
Llongyfarchiadau - chi sy'n ennill y wobr gyntaf!
Am fwy o wybodaeth ac amseroedd edrychwch ar raglen neu ap Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a'r Fro