Dechrau'r gwaith o adnewyddu Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Neuadd Pantycelyn
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw ailagor y neuadd ym mis Medi 2020

Bydd y gwaith o adnewyddu Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dechrau ym mis Mehefin.

Ddydd Gwener cyhoeddodd y brifysgol eu bod wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni adeiladu Morgan Sindall a bydd y gwaith yn dechrau ar 3 Mehefin.

Y gobaith yw y bydd y myfyrwyr cyntaf yn byw yn y neuadd, sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith, o fis Medi 2020.

Mae cost y prosiect wedi cynyddu erbyn hyn i £16.5m, ond wrth gyhoeddi'r newyddion dywedodd yr Is-Ganghellor Elizabeth Treasure bod yr arian i gyd yn ei le.

Y nod gwreiddiol oedd agor erbyn Medi 2019 ar gost o £12m - gyda £5m o'r arian hwnnw yn dod o Lywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth/Penseiri Lawray
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun o lawr gwaelod Pantycelyn, sy'n dangos gofodau cymdeithasol, ffreutur a swyddfeydd newydd ar gyfer UMCA

Yn ôl y brifysgol, roedd yr "heriau o ailddatblygu'r adeilad rhestredig Gradd 2" wedi golygu nad oedd modd cwblhau'r gwaith adnewyddu mewn pryd.

Bydd 200 o ystafelloedd en-suite yn rhan o'r neuadd newydd, ynghyd â swyddfeydd ar gyfer Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), ffreutur a gofodau cymdeithasol.