Gorchymyn cwpl i gael gwared ar gopi 'Cofiwch Dryweryn'

  • Cyhoeddwyd
Cofiwch Dryweryn Pen-y-bontFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy (dde) wedi bod yn cefnogi achos Freya Bletsoe (canol)

Mae cwpl wedi cael gorchymyn i gael gwared ar gopi o gofeb 'Cofiwch Dryweryn' oddi ar wal eu siop ym Mhen-y-bont.

Mae'r gofeb wreiddiol ar yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron yn coffau boddi Capel Celyn yn 1965, a cafodd honno ei difrodi a'i hailadeiladu ym mis Ebrill.

Mae'r copi gafodd ei beintio ar ochr siop losin ym Mhen-y-bont ymysg nifer sydd wedi cael eu paentio ers iddo gael ei fandaleiddio.

Ond mae'r cyngor sir wedi gorchymyn iddyn nhw baentio drosto am ei fod yn dod o dan gategori hysbyseb.

'Ymateb hollol wych'

Cafodd y copi o'r murlun ei baentio ar y siop gan gynghorydd Plaid Cymru, Freya Bletsoe gyda'i gŵr Steven, dirprwy faer y cyngor tref.

Dywedodd Ms Bletsoe ei bod wedi cael caniatâd eu landlord i wneud hynny wedi i'r gwreiddiol gael ei ddifrodi.

"Rydyn ni wedi cael ymateb hollol wych yn lleol," meddai.

"Dydy e ddim yn hysbysebu dim byd oni bai am y ffaith bod y Saeson wedi boddi pentref yng ngogledd Cymru."

Ond mae llythyr at landlord yr adeilad gan Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud bod angen caniatâd i unrhyw hysbyseb, gan fygwth dirwy neu erlyniad cyfreithiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor wedi dweud wrth y siop losin bod y murlun yn cael ei ystyried fel hysbyseb

Dywedodd yr AC Neil McEvoy, sy'n cefnogi achos y cwpl, bod y cyngor yn "camddehongli" y ddeddfwriaeth berthnasol.

"Nid hysbyseb masnachol yw hwn," meddai.

"Rwy'n credu beth sy'n digwydd yma yw bod cyngor yn cymryd rhan mewn gweithred gwrth-Gymreig.

"Mae'n rhan o dreftadaeth Cymru a chelf ddiwylliannol Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: "Gan fod arddangos hysbyseb heb ganiatâd yn drosedd, mae perchennog yr adeilad wedi cael gorchymyn i fynd ar wefan y cyngor am ffurflen gais.

"Ry'n ni'n hapus i'w cynghori ymhellach os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau."