Etholiad Ewrop: Dwy sedd i Blaid Brexit yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Brexit wedi llwyddo i ennill dwy sedd yng Nghymru yn Etholiad Senedd Ewrop, wrth iddyn nhw ddod ar y brig mewn 19 o'r 22 awdurdod lleol.
Daeth Plaid Cymru yn ail ledled Cymru, gan gadw eu sedd, tra bod Llafur wedi cadw eu sedd nhw hefyd, er eu bod wedi cael eu gwthio i'r trydydd safle.
Y Democratiaid Rhyddfrydol ddaeth yn bedwerydd yng Nghymru, gyda'r Ceidwadwyr yn bumed, a'r Blaid Werdd yn chweched agos.
Mae'r canlyniad yn golygu mai'r pedwar fydd yn cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop ydy Nathan Gill a James Wells o Blaid Brexit, Jill Evans o Blaid Cymru a Jackie Jones ar ran y Blaid Lafur.
Yn yr Etholiad Ewropeaidd diwethaf yn 2014 fe wnaeth UKIP, Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ennill un sedd yr un.
Dywedodd Mr Gill, gafodd ei ethol i Senedd Ewrop dan faner UKIP yn 2014: "Mae hon yn neges gref iawn gan Gymru - rydyn ni eisiau Brexit nawr."
Fe wnaeth Plaid Brexit ennill pob cyngor yng Nghymru oni bai am Geredigion, Gwynedd ac Ynys Môn - ble roedd Plaid Cymru ar y brig.
Dyma hefyd oedd y tro cyntaf erioed i blaid Adam Price wneud yn well na Llafur mewn etholiad Cymru gyfan.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei bod yn ganlyniad "hanesyddol" i'r blaid, a bod Cymru "unwaith eto yn wlad sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd".
Roedd Mr Price yn cyfeirio at y ffaith fod pleidiau sydd o blaid refferendwm arall wedi ennill mwy o bleidleisiau na'r rheiny sydd o blaid Brexit caled.
Canlyniad Cymru'n llawn
Plaid Brexit - 271,404 - 32.5%
Plaid Cymru - 163,928 - 19.6%
Llafur - 127,833 - 15.3%
Democratiaid Rhyddfrydol - 113,885 - 13.6%
Ceidwadwyr - 54,587 - 6.5%
Y Blaid Werdd - 52,660 - 6.3%
UKIP - 27,566 - 3.3%
Change UK - 24,332 - 2.9%
Dyma'r ail dro yn unig yn y ganrif ddiwethaf i Lafur beidio dod i'r brig yng Nghymru mewn etholiad.
Dywedodd Ms Jones: "Mae gennym arweinydd Torïaidd newydd ar y ffordd - un fydd mwy na thebyg o blaid Brexit heb gytundeb, yn wahanol i Theresa May.
"Mae'n rhaid i ni fod yn barod i ddelio gyda'r sefyllfa yna, oherwydd byddai dim cytundeb yn drychineb llwyr i Gymru."
Ar raglen y Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd, Gweinidog Brexit Cymru Jeremy Miles AC: "Doedd hi ddim yn noson dda. Mae'n debyg fod ein neges ni wedi bod yn rhy gymhleth.
"Mae'n sicr angen ailystyried y polisi.
"Ni wedi bod yn glir taw'r peth sydd waethaf i Gymru yw Brexit caled ac mae'n bwysig i ni...gydweithio gydag unrhyw un i sicrhau bod ni ddim yn cael y canlyniad hwnnw."
Roedd hi'n noson wael i'r Ceidwadwyr, wrth iddyn nhw golli eu sedd a bron cael eu gwthio i'r chweched safle yng Nghymru.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies: "Mae'r canlyniadau yma'n siomedig iawn i'n hymgeiswyr sydd wedi gweithio'n galed iawn, ac mae'n rhaid i ni nawr eu hystyried yn fanwl iawn."
Er na lwyddon nhw i ennill sedd, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds bod y canlyniad yn dystiolaeth bod y blaid yn "brwydro 'nôl".
"Mae pleidleiswyr yn gwrando arnom ni eto, yn ein cefnogi eto ac yn credu yn y blaid eto," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019
- Cyhoeddwyd23 Mai 2019
- Cyhoeddwyd22 Mai 2019