Padlo dan y sêr yn Eryri
- Cyhoeddwyd
"Mae padlfyrddio yn y nos yn brofiad arbennig sy'n deffro'r synhwyrau. 'Da chi'n clywed y newid yn yr amgylchedd wrth i'r shifft nos gychwyn. Mae adar y dydd yn setlo i lawr a 'da chi'n clywed y tylluanod ac yn gweld yr ystlumod. Mae adlewyrchiad y lleuad yn crychu dros y dŵr a 'da chi'n gweld yr awyr yn llenwi gyda sêr."
A dyma pham mae'r padlfyrddiwr Sian Sykes wedi cychwyn arwain teithiau padlfyrddio gyda'r nos ym mynyddoedd Eryri.
Yn ôl Sian, mae'n lleoliad heb ei hail oherwydd fod Eryri yn un o'r 11 lle yn y byd i fwynhau Statws Gwarchodfa Awyr Dywyll gan fod ansawdd awyr nos yr ardal yn rhagorol.
Mae Sian yn arwain tripiau i nifer o lynnoedd Eryri gyda'r nos, yn arbennig Llyn Padarn yn Llanberis, yn ogystal ag i arfordir Ynys Môn.
Mae'r profiad yn un arbennig, yn ôl Sian: "'Dw i wrth fy modd â hud y cyfan. 'Dw i wedi mynd allan mewn gwahanol amodau - pan mae hi wedi bod yn wyntog neu'n niwl trwchus mawr ac mae'n teimlo'n arswydus a chyffrous. Mae pob profiad nos 'dw i'n ei wneud yn wahanol.
"Mae gennym oleuadau o dan ein byrddau i weld pysgod yn y dŵr. 'Dw i wedi gweld plancton bioluminescent yn y môr yng Nghemaes, Ynys Môn. Mae'n algâu lliw llachar sy'n torri i ffwrdd ac yn tanio pan fyddwch chi'n cysylltu â nhw.
"Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weld dyfrgwn, morloi, llamhidyddion a dolffiniaid ar arfordir Cymru.
"Mae'n rhoi cyfle i gymryd saib ac arafu, gan weld y sêr a'r lleuad. Gallwch weld silwét yr Wyddfa yn y cefndir ac mae'n arbennig i orwedd ar y byrddau o dan y Llwybr Llaethog. 'Da ni wedi gweld 25 seren wib ar un trip.
"Mae'n brydferth tu hwnt."
Newid byd
Ac mae'n dipyn o newid byd i Sian, oedd yn gweithio ym myd marchnata digidol yn Llundain am flynyddoedd cyn dychwelyd i ogledd Cymru.
Dywedodd Sian: "Ar ôl gweithio 18 awr y dydd yn Llundain am 15 mlynedd, bu rhaid i fi gychwyn gweithio gyda brandiau penodol ro'n i wedi bod yn eu hosgoi ers i mi fod yn ifanc.
"Hwn oedd y catalydd i mi adael Llundain i gael cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, felly dychwelais i Gymru a symud i Ynys Môn.
"Wnes i ddarganfod padlfyrddio ar hap, yn 34 oed, ac roeddwn wrth fy modd felly fe wnes i hyfforddi fel hyfforddwr padlo a gadael Llundain yn llawn amser. A dyna ni."
Yr amgylchedd
Sian oedd y person cyntaf i fynd o amgylch arfordir cyfan Cymru drwy badlo, ar ei phen ei hun a heb gefnogaeth. Cymerodd yr her er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r difrod mae plastig yn ei wneud i'n harfordir.
Mae'r ffocws amgylcheddol yn bwysig iawn iddi ac mae pob person sy'n dod ar drip padlfyrddio gyda hi'n cael eu gwahardd rhag dod ag unrhyw blastig gyda nhw ac hefyd yn gorfod codi sbwriel.
Mae Eryri'n Warchodfa Awyr Dywyll oherwydd fod yr ardal wedi profi bod ansawdd awyr nos yno yn rhagorol a bod ymdrechion yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau.
Mae llygredd golau yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Sian: "I mi, mae'n arbennig o bwysig i leihau llygredd golau yn Eryri gan ei fod yn effeithio'n fawr ar ein hamgylchedd."
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Felly ydy Sian yn hapus gyda'i phenderfyniad i ddychwelyd i Gymru?
"Roeddwn i wrth fy modd â chyffro fy swydd ond erbyn hyn mae gen i gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith ac mae'n fwy boddhaol gan fy mod wrth fy modd yn ysbrydoli pobl i fynd allan a mwynhau'r awyr agored a pharchu natur.
"Mae'n arbennig iawn i fod yn agos at natur ac rydych chi'n mynd i mewn i gyflwr myfyriol. Y foment honno o gael eich trochi mewn natur, i ffwrdd o bopeth...
"Mae pobl yn mwynhau bod ar y dŵr oherwydd dydyn nhw ddim yn meddwl am unrhyw beth arall. Maen nhw'n meddwl am eu synhwyrau - maen nhw'n clywed, maen nhw'n arogli, maen nhw'n gweld ac maen nhw'n gwerthfawrogi'r harddwch o'u cwmpas."