Brechlyn llid yr ymennydd: Apêl dioddefwr i fyfyrwyr

  • Cyhoeddwyd
Alison Westwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alison Westwood ei tharo'n wael yn y gweithle ym mis Ionawr 2003

Mae cyn ffisiotherapydd oedd yn agos at farw o lid yr ymennydd yn annog myfyrwyr i gael eu brechu rhag yr haint.

Mae Alison Westwood o Borthcawl yn llysgennad i'r elusen Meningitis Now ac yn helpu gydag ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth mewn prifysgolion.

Roedd yn 40 oed pan gafodd y math firaol o'r haint ym mis Ionawr 2003 ac mae'n dweud iddi gymryd cryn amser i wella.

"Mae mor bwysig bod myfyrwyr yn adnabod y symptomau," meddai.

Mae nifer yr achosion o lid yr ymennydd a gwenwyn gwaed yn sgil math peryglus o'r bacteria MenW wedi cynyddu dros y 10 mlynedd diwethaf.

Pobl ifanc yn eu harddegau hwyr a myfyrwyr sydd â'r risg fwyaf o gael eu heintio - yn aml trwy gymdeithasu mewn llefydd cyfyng fel neuaddau preswyl.

Dywed ymgyrchwyr bod symptomau cynnar weithiau yn debyg i'r rheiny sy'n codi ar ôl yfed gormod, gan gynnwys cur pen a chyfogi ynghyd â phoen yn y cyhyrau, twymyn a dwylo a thraed oer.

"Fel ffisiotherapydd, ro'n i wedi trin pobl gyda llid yr ymennydd ond wnes i ddim ystyried bod fy nghur pen ofnadwy yn rhywbeth i boeni amdano," meddai Ms Westwood.

"Gymrais i dabledi lladd poen a wnaeth dim gwahaniaeth ond pan gefais i ffotoffobia a methu goddef golau, fe fynnodd fy ngŵr bod rhaid ffonio'r doctor.

"Cefais fy nanfon i'r ysbyty lleol yn syth. Fe wnaeth pigiad yn y lwynau (lumbar puncture) gadarnhau bod llid yr ymennydd firaol arna'i.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brechlyn yn gwarchod claf rhag sawl math o lid yr ymennydd

"Roedd y driniaeth yn yr ysbyty yn ardderchog - fe achubodd fy mywyd, ond ar ôl gadael yr ysbyty daeth yr amlwg bod hi'n mynd i gymryd amser i wella.

"Oherwydd blinder ofnadwy, pendro, methu cofio yn y tymor byr, cur pen difrifol a methu â chanolbwyntio do'n i ddim yn gallu byw fy mywyd arferol fel mam a gwraig gartref nac yn fy ngwaith fel ffisiotherapydd a bu'n rhaid ymddeol ar sail iechyd.

"Mae mor bwysig i fyfyrwyr adnabod y symptomau... os mae myfyrwyr yn cael brechlyn fe allai arbed bywyd".

'Para am flynyddoedd'

Dywedodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y brechlyn yn effeithiol o ran atal mathau A, C, W a Y o'r haint.

Ond mae'n rhybuddio bod y straen newydd W "yn arbennig o ddifrifol ac yn anoddach i sicrhau diagnosis".

"Mae'r gyfradd marwolaethau yn uwch, felly ar ôl cael eich brechu, rydych chi wedi lleihau'r risg yn sylweddol o gael eich heintio - o 90%," meddai.

"Mae brechu'n bwysig - mae'n para am nifer o flynyddoedd felly i bawb sy'n mynd i'r brifysgol, neu wedi methu brechlyn, mae'n bwysig gael eich brechu cyn mynd i'r brifysgol."

Mae'r brechlyn ACWY sengl yn gwarchod claf rhag y pedwar math o facteria meningococaidd sy'n achosi llid yr ymennydd a gwenwyn gwaed.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod canran y bobl yng Nghymru sy'n derbyn brechlynnau yn hwyr am na chafon nhw'u rhoi yn ôl yr amserlen arferol yn dal ond yn 42%, a chyn lleied â 35% mewn rhai mannau.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a welodd 60.8% o fyfyrwyr yn cael eu brechu.