Carwyn Jones: 'Angen refferendwm arall cyn yr Hydref'

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Jones fod gwleidyddiaeth yn y DU wedi "polareiddio"

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru o'r farn bod angen refferendwm arall ar delerau gadael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn datrys y "polareiddio gwleidyddol" yn y DU.

Dywedodd Carwyn Jones wrth raglen y Post Cyntaf mai cynnal pleidlais arall "yw'r unig ffordd y gallwn ni wybod beth yw barn y bobl".

Mae'r Prif Weinidog presennol, Mark Drakeford hefyd wedi dweud ei fod yn cefnogi pleidlais newydd er mwyn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Jones ym mis Chwefror ei fod am weld refferendwm arall, ond nawr mae'n dweud fod angen cynnal y refferendwm yn ystod yr haf.

"Mae gwleidyddiaeth wedi polareiddio siwt gymaint ar hyn o bryd, mae'n rhaid dewis ochr. Does dim modd bod yn y canol," meddai.

"Doeddwn i ddim o blaid ar y dechrau achos roedd y bleidlais wedi digwydd felly gallwn ni ddim bod rhy flaengar ynglŷn â gofyn am refferendwm arall.

"Ond erbyn hyn dydw i ddim yn gweld unrhyw ffordd arall o ddatrys y broblem sydd gyda ni."

Ychwanegodd bod angen dau gwestiwn yn y refferendwm - ar adael neu aros ac ar adael heb, neu gyda, chytundeb - i sicrhau mesur eang o farn y bobl.