CNC: 'Llygredd cemegol yn gyfrifol am ladd pysgod'

  • Cyhoeddwyd
Pysgodyn marw
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd degau o bysgod eu lladd yn dilyn yr achos diweddaraf o lygredd

Llygredd cemegol sy'n debygol o fod yn gyfrifol am achosi marwolaeth degau o bysgod yn yr Afon Teifi wythnos ddiwethaf, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r corff wedi bod yn ymchwilio i'r achos o lygredd yn Afon Plysgog, Cilgerran - sy'n llifo mewn i'r Teifi - ers y digwyddiad ar 24 Mai.

Roedd lliw'r dŵr yn llwyd ac roedd degau o bysgod wedi eu lladd.

Dywedodd Rod Thomas, uwch swyddog amgylchedd gyda CNC: "Mae'n swyddogion yn credu eu bod nhw wedi darganfod lle aeth y sylwedd i'r afon, ond ni allent gadarnhau'r tarddiad ar hyn o bryd.

"O'r dystiolaeth sydd wedi ei gasglu, mae hi'n debygol mai llygredd cemegol sy'n gyfrifol yn hytrach na llygredd organig fel carthion neu slyri."

Mae CNC yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 03000 65 3000.