Comisiynydd: 'Defnydd yn bwysig i gadw'r iaith yn fyw'
- Cyhoeddwyd
Ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud fod angen gwneud y "Gymraeg yn iaith fyw ym mhob cymuned".
Roedd Aled Roberts yn ymddangos ar raglen Taro'r Post, Radio Cymru a'i neges oedd i "gymaint o bobl â phosib i ddefnyddio'r iaith".
Ychwanegodd hefyd fod "perygl i bobl gymryd yn eu meddyliau fod statws yr iaith yn ddiogel".
"Edrychwch ar Iwerddon, maen nhw wedi cael statws ers bron i ganrif, ond mae'r iaith yno yn diflannu fel iaith fyw," meddai Mr Roberts.
"Felly mae'n rhaid sicrhau mai'r defnydd yw'r peth pwysig. Mae'n rhaid i blant a phobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
"Os yw hynny yn y capel neu yn y dafarn, dwi eisiau gweld cymaint o gyfleoedd â phosib i bobl ddefnyddio'r iaith."
'Hyder yn her'
Hefyd fel rhan o'r drafodaeth dywedodd Mr Roberts fod hyder ymysg pobl ifanc yn "her enfawr".
Wrth drafod pwysigrwydd gwisgo bathodyn oren i ddangos fod person yn medru'r Gymraeg, dywedodd nad yw pobl bob amser yn fodlon dweud beth yw eu sgiliau.
"Mae gennyf brofiad fy hun ble mae pobl yn dweud nad ydy eu Cymraeg yn ddigon da i wisgo'r bathodyn," meddai.
"Mae'n her, ond mae'n rhaid i ni barhau gyda'r strategaethau ac efallai dwysau rhai o'r rheiny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2019