Eglwys yn Abertawe a ddinistriwyd adeg y rhyfel yn 60 oed
- Cyhoeddwyd
Mae eglwys hanesyddol yng nghanol dinas Abertawe yn dathlu ei phen-blwydd yn 60 oed yr wythnos hon.
Ar ôl iddi gael ei dinistrio yn llwyr yn Blitz Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn rhaid i Eglwys Santes Fair gael ei hailgodi yn y pumdegau.
Dywedodd un o offeiriad yr Eglwys, John Anthony: "Yn ystod y rhyfel wrth gwrs roedd pethau drwg ofnadwy yn digwydd gyda'r blitz yn Abertawe ac fe gafodd yr eglwys dân ar ôl y bomio ac roedd hi wedi mynd."
Dros dair noson, daeth awyrennau'r Natsïaid i hedfan dros Abertawe a gollwng eu bomiau cyn troi nôl dros y bae.
Roedd bomio tref neu ddinas am dair noson yn olynol yn unigryw y tu allan i Lundain.
Fe gafodd 227 o bobl eu lladd, gyda 37 ohonynt yn iau nag 16 oed.
Cafodd 400 o drigolion y ddinas eu hanafu ac roedd modd gweld y fflamau 80 milltir i ffwrdd yn Abergwaun, Dyfnaint a Chernyw.
Ar ddydd Sadwrn, 22 Chwefror, 1941 fe ddihunodd trigolion Abertawe mewn tref oedd wedi'i newid yn gyfangwbl.
Collwyd 850 o adeiladau, gan gynnwys rhai o adeiladau mwyaf eiconig y dref - Siop Ben Evans, y farchnad Fictorianaidd ac Eglwys Santes Fair.
Oherwydd problemau ariannu a chynllunio fe gymerodd hi bron i bymtheg mlynedd wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd i ailadeiladu'r eglwys - bu'n rhaid aros tan fis Mai 1959 cyn i'r gwaith gael ei gwblhau.
'Dod o hyd i dangnefedd'
Ychwanegodd y Parchedig John Anthony: "Nawr mae'n lle prysur iawn, ni'n ceisio cadw'r eglwys ar agor bob dydd.
"[Mae cyfle] i bobl ddod mewn, i weddïo, ac i fod yn dawel yng nghanol y dydd, mae'n hyfryd i gael rhywle i ddod o hyd i dangnefedd."
Wrth i'r eglwys ddathlu ei phen-blwydd yn chwedeg oed mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i ddathlu'r garreg filltir, gan gynnwys cyngherddau arbennig gyda Chôr Orffews Treforus.
Saif Eglwys y Santes Fair yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Abertawe, ac yn ôl yr offeiriad John Anthony, mae'n parhau i chwarae rôl hynod o bwysig yn y ddinas.
Dywedodd: "Dwi'n credu [ei fod yn le] pwysig iawn achos mae'r ddinas yn brysur ac mae lot o bobl yn mynd heibio gyda phroblemau.
"Maen nhw'n dod mewn [fan hyn] i siarad neu i fod yn dawel. Fel arfer mae'n nhw dod mewn i siarad a dwi'n ceisio helpu. Dyna ein rôl, dwi'n credu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2016