Agor adeilad newydd Ysgol Carreg Emlyn yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Bydd adeilad newydd Ysgol Carreg Emlyn yn Sir Ddinbych yn agor ei drysau ddydd Mawrth ar gost o £5m.
Cafodd yr ysgol ei chreu yn 2014 wedi i ysgolion Cyffylliog a Chlocaenog uno.
Ers hynny mae'r ddwy ysgol wedi bod yn gweithredu ar ddau safle gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cael eu dysgu ar safle Cyffylliog a disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn cael eu dysgu ar safle Clocaenog.
Ddwy flynedd yn ôl fe roddodd pwyllgor cynllunio Sir Ddinbych sêl bendith i godi adeilad newydd i'r ysgol ar dir amaethyddol yng Nghlocaenog ger Rhuthun.
Cafodd y prosiect ei ariannu gan raglen ysgolion Sir Ddinbych ar gyfer y 21ain ganrif a Llywodraeth Cymru.
Mae'r ysgol yn gwasanaethu plant cymunedau Cyffylliog, Bontuchel, Galltegfa, Clocaenog, Clawddnewydd a Derwen.
'Cael y cyfle gorau'
Yn gynharach dywedodd Karen Evans, Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant y Cyngor: "Yr ydym yn edrych ymlaen at agor yr ysgol newydd.
"Mae'r prosiect yn nodi buddsoddiad sylweddol arall mewn cyfleusterau addysg yn Sir Ddinbych, gan sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfle gorau i gyflawni eu potensial.
"Mae rhoi'r cychwyn gorau mewn bywyd i bobl ifanc yn flaenoriaeth i'r cyngor ac mae adeiladu ysgolion newydd yn ein helpu i gyrraedd y nod hwnnw."
Mae'r cynlluniau yn cynnwys ardaloedd chwarae allanol, maes parcio a man gollwng teithwyr.
Roedd peth gwrthwynebiad i leoliad yr adeilad yn lleol ond dadl y cyngor sir oedd nad oedd adeiladau'r ddwy ysgol yn ymarferol - roedd yn rhaid i'r plant fwyta yn y dosbarthiadau am nad oedd ffreutur.
Yn ogystal roedd gwasanaethau yn cael eu cynnal yn swyddfa'r pennaeth am nad oedd neuadd yn y ddwy ysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Medi 2014