Cymdeithas yn cyhuddo corff iechyd o fod yn 'wrth-Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
prawf llygaidFfynhonnell y llun, PA

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r corff sy'n cynrychioli optegwyr yng Nghymru o fod yn "wrth-Gymraeg" yn dilyn sylwadau wnaeth y corff am ddefnydd o'r iaith.

Ddydd Iau, roedd pwyllgor diwylliant y Cynulliad yn trafod rheoliadau newydd i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg o fewn gwasanaethau iechyd.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywedodd Optometreg Cymru y byddan nhw'n cynghori staff i beidio rhoi profion golwg nac archwiliadau clinigol "mewn iaith heblaw'r iaith yr astudion nhw ynddi".

"Mae gennym bryderon am oblygiadau meddygol-gyfreithiol o gynnal archwiliadau a chyngor clinigol drwy iaith heblaw am y Saesneg," meddai'r corff.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod angen cryfhau'r rheoliadau, ond mae cyrff proffesiynol yn dadlau fel arall.

Mewn dogfen o dystiolaeth ysgrifenedig [Saesneg yn unig], dolen allanol, dywed Optometreg Cymru y gallai rhai clinigwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg deimlo'n "anesmwyth" wrth drafod canfyddiadau profion gyda chleifion am nad ydyn nhw wedi derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Os ydyn nhw'n teimlo'n anghyfforddus yn cynnal archwiliad llygaid trwy gyfrwng y Gymraeg ni ddylent gael eu 'gorfodi' i wneud hynny," meddai'r ddogfen.

'Perthyn i'r oes a fu'

Wrth ymateb i dystiolaeth Optometreg Cymru, dywedodd David Williams, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith bod rhai o'r sylwadau yn "sioc ac yn hynod sarhaus".

"Dylen nhw fod yn perthyn i'r oes a fu, ac mae'r ffaith bod corff proffesiynol yn gallu dweud rhywbeth o'r fath yn dystiolaeth bellach bod angen rheoleiddio cryfach," meddai.

"Gobeithio y gwnaiff Pwyllgor Diwylliant y Senedd wrthod eu dadleuon i beidio â chryfhau hawliau pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd.

"Mae'n anhygoel i ni bod Optometreg Cymru, fel corff proffesiynol, yn cynghori eu haelodau i beidio cynnig gwasanaeth Cymraeg.

"Mae'n agwedd ragfarnllyd ar y naw, yn wir, byddwn i'n mynd mor bell â dweud bod y corff yn wrth-Gymraeg. Dylen nhw ymddiheuro am y sylwadau hyn."

Ymateb Optometreg Cymru

Mewn datganiad i Cymru Fyw ddydd Gwener, dywedodd Optometreg Cymru: "Gwnaethom arolygu ein 700 o aelodau yn 2014 a dim ond 9% o'r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn darparu profion llygaid yn Gymraeg.

"Gyda hyn mewn golwg, roeddem yn bwriadu, drwy'r dystiolaeth a ddarparwyd gennym, sicrhau ein bod yn cefnogi dysgwyr ac ymarferwyr Cymreig nad oedd y Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt a allai deimlo bod yn rhaid iddynt gyflwyno profion golwg trwy eu sgiliau iaith Gymraeg sylfaenol.

"Mae gennym ddyletswydd i gynrychioli ein holl aelodau'n deg ac rydym wedi gwneud ein gorau gyda'r dystiolaeth ysgrifenedig i gynrychioli ein proffesiwn cyfan.

"Doedd y dystiolaeth a ddarparwyd gennym ddim ar gyfer y garfan fach o'r proffesiwn sy'n darparu'r gwasanaethau clinigol hyn yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Rydym yn parhau i gefnogi pob ymdrech i annog defnydd parhaus a chynyddol o'r Gymraeg yn ein hiaith a'n diwylliant.

"Hoffem ymddiheuro'n ddiffuant i'r rhai yr ydym wedi eu tramgwyddo yn ein tystiolaeth, y bwriad oedd crynhoi'r cyngor y mae'n rhaid i ni ei ddarparu i'r rhai nad yw'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddynt neu sydd â sgiliau sylfaenol, i sicrhau eu bod yn gweithredu'n ddiogel yn eu cymwyseddau.

"Edrychwn ymlaen at weithio gyda'n rhanddeiliaid fel Cymdeithas yr Iaith i gyfleu ein bwriadau yn well yn y dyfodol."