Cau ffatri Ford: 'Brexit wedi chwarae rhan yn y penderfyniad'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud bod Ford wedi cyfaddef yn breifat fod Brexit wedi chwarae rhan yn y penderfyniad i gau ffatri yng Nghymru.
Daw'r honiad wedi i Ford gau ei ffatri - sy'n cyflogi 1,700 o bobl - ym Mhen-y-bont ar Ogwr erbyn Medi 2020.
Dywedodd Mr Jones - sy'n aelod cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr - er bod y cwmni wedi gwadu'r penderfyniad yn gyhoeddus, ei fod wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru fod y posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ffactor.
Dywedodd Ford y byddai wedi bwrw 'mlaen gyda'r cynlluniau er gwaethaf Brexit.
Ond ychwanegodd "rydym wedi datgan yn gyson y byddai Brexit caled, dianghenraid, yn drychinebus i'n gweithrediadau ac am lawer o'r diwydiant ceir yn y DU ".
Dywedodd Mr Jones wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales: "Mae'n ymddangos i mi fod y penderfyniad [i gau] wedi cael ei wneud wythnos neu bythefnos cyn y cyhoeddiad, felly roedd yn rhywbeth sydyn iawn - newidiodd rhywbeth yn yr amser hwnnw iddyn nhw symud i safle lle'r oedden nhw'n bwriadu cau.
"Rwy'n gwybod eu bod wedi dweud yn gyhoeddus nad oedd Brexit yn ffactor, ond nid dyna a ddywedwyd wrth y Gweinidog [Economi a Thrafnidiaeth], Ken Skates.
"Nid Brexit oedd y brif ffactor, mae yna resymau eraill wrth gwrs, ond mi roedd e'n ffactor ac fe aethon nhw i fanylder pam ei fod yn bendant yn ffactor."
'Diffyg cyfrifoldeb'
Mae'r cwmni ceir hefyd wedi cael ei gyhuddo o "ddiffyg cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol" gan economegydd blaenllaw o Gymru.
Fe wnaeth Kevin Morgan feirniadu'r cwmni am beidio â rhoi gwybod i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford tan oriau cyn i'r gweithlu gael gwybod.

Cafodd gweithwyr Ford eu gyrru o'r gwaith brynhawn ddydd Iau
Dywedodd Ford mai'r flaenoriaeth oedd rhoi gwybod i weithwyr yn gyntaf am unrhyw benderfyniadau mawr.
Dywedodd Mr Morgan, athro llywodraethu a datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd: "Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr ynghylch ail-arfogi'r gweithlu hwnnw gyda mathau eraill o gyflogaeth?
"Bydd angen i ni fod yn fwy ystwyth nag yr ydym wedi bod mewn 20 mlynedd o ddatganoli."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019