Hwngari v Cymru: Giggs yn awgrymu bod newidiadau yn bosib

  • Cyhoeddwyd
James LawrenceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r golled yn erbyn Croatia yn golygu bod Cymru yn disgyn i'r trydydd safle yn y tabl

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs, wedi awgrymu y gallai wneud newidiadau i'r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Hwngari nos Fawrth.

Daw'r sylwadau yn dilyn colled o 2-1 yn erbyn Croatia yng ngemau rhagbrofol Euro 2020 brynhawn Sadwrn.

Golygai'r canlyniad bod Cymru yn drydydd yn Grŵp E, tri phwynt y tu ôl i Croatia a'u gwrthwynebwyr nesaf - Hwngari.

Er bod Giggs yn dweud ei fod yn hapus gyda pherfformiad y tîm yn Osijek, awgrymodd fod newidiadau yn bosib er mwyn cadw pethau'n "ffres".

Disgrifiad,

Hoffai'r cefnogwyr weld newidiadau i dîm Cymru

Mae sawl un wedi galw am weld David Brooks ac Ethan Ampadu yn dechrau yn erbyn Hwngari ar ôl i'r ddau serennu fel eilyddion ddydd Sadwrn.

Fe sgoriodd Brooks ei gôl gyntaf i'r tîm rhyngwladol yn erbyn Croatia, ond mae Giggs yn mynnu nad oedd ef nac Ampadu yn barod i ddechrau'r gêm.

"Dyw Ethan heb ddechrau gêm ers chwe mis ac fe wnaeth Brooks fethu diwedd y tymor gyda Bournemouth," meddai.

"Byddai'n golygu ein bod ni'n colli dau eilydd mewn ffordd, a dydy o ddim yn deg ar chwaraewyr eraill chwaith. Ein cyfrifoldeb ni yw asesu'r sefyllfa a gwneud yr hyn rydyn ni'n meddwl sydd orau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Craig Bellamy ddwy gôl y tro diwethaf i'r ddwy wlad gwrdd 'nôl yn 2005

Hwngari sydd ar frig Grŵp E ar hyn o bryd yn dilyn dechrau addawol.

Er iddynt golli'r gêm gyntaf o 2-0 yn erbyn Slofacia, mae tîm Marco Rossi wedi taro 'nôl gyda buddugoliaethau yn erbyn Croatia ac Azerbaijan.

Ond mae Rossi wedi ei wahardd o'r gêm yn erbyn Cymru ar ôl derbyn cerdyn coch yn ystod y fuddugoliaeth yn Baku.

Bydd 3,000 o seddi yn y Groupama Arena, Budapest, ddim ar gael nos Fawrth fel rhan o gosb gan UEFA.

Mae sawl cyhuddiad yn erbyn cefnogwyr Hwngari, gan gynnwys ymddygiad hiliol honedig yn ystod y gêm yn erbyn Slofacia ym mis Mawrth.

Gunter i ddychwelyd?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaid i Gymru chwarae "lot gwell" os ydyn nhw am drechu Hwngari, yn ôl Giggs

Pe bai Chris Gunter yn dechrau'r gêm yn lle Connor Roberts fel y disgwyl, bydd yr amddiffynnwr yn ennill cap rhif 95.

Y gred yw y byddai penderfyniad am ffitrwydd Brooks ac Ampadu wedi ei wneud yn dilyn sesiwn hyfforddi ddydd Llun.

Ychwanegodd Giggs: "Mae ffêr Brooks i'w weld yn iawn, ac er bod Ethan yn teimlo rywfaint o boen yn ei gefn, dwi'n meddwl bod hynny ar ôl cael ei daro.

"Dwi'n meddwl bod nifer o chwaraewyr wedi chwarae'n dda iawn ond mae'n rhaid i ni ystyried effaith y gwres.

"Mae rhai yn fyr o funudau felly efallai bod angen i ni wneud newidiadau er mwyn cadw pethau'n ffres."