Manchester United yn arwyddo Daniel James o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Daniel JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd y Cymro bum gôl mewn 38 gêm i Abertawe eleni

Mae Manchester United wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo asgellwr Cymru, Daniel James, o Abertawe.

Bydd yr Elyrch yn derbyn ffi o tua £15m am y Cymro 21 oed, ond y gred yw y gallai'r ffigwr hwnnw godi.

Fe wnaeth James gwblhau prawf meddygol gyda Manchester United cyn ymuno â charfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Croatia a Hwngari yn rowndiau rhagbrofol Euro 2020.

Dywedodd James fod heddiw yn "un o ddyddiau gorau ei fywyd".

Fe sgoriodd James bum gôl mewn 38 gêm i Abertawe y tymor diwethaf ac roedd yn agos iawn at ymuno â Leeds United ar fenthyg am ffi o £2m ym mis Ionawr.

Mae James yn "asgellwr cyffrous, medrus sydd â chyflymder arbennig," yn ôl rheolwr Manchester United, Ole Gunnar Solskjaer.

Ychwanegodd mai Old Trafford yw'r lle perffaith iddo barhau â'i ddatblygiad.