Newid dyddiad Calan Mai 2020 yn gur pen i wasg Y Lolfa
- Cyhoeddwyd
Mae gwasg Y Lolfa, sy'n cyhoeddi dyddiaduron dwyieithog, wedi beirniadu Llywodraeth y DU am beidio â rhoi digon o rybudd wrth newid dyddiad Calan Mai y flwyddyn nesaf.
Mae'r diwrnod gwŷl banc traddodiadol wedi symud yn 2020 - o ddydd Llun 4 Mai i ddydd Gwener 8 Mai - i nodi 75 mlynedd ers VE Day.
Ond fe ddaeth y cyhoeddiad ar ôl i'r wasg yn Nhal-y-bont, ger Aberystwyth argraffu'r rhan fwyaf o'u dyddiaduron ar gyfer 2020.
Dywedodd golygydd comisiynu'r cwmni, Lefi Gruffudd: "Mae'r penderfyniad hwyr yma gan y llywodraeth yn debyg o gostio'n ddrud i ni.
"Mi fyddwn yn ail-argraffu y dyddiadur A5 ac A4. Ond mi fydd yn amhosib i ni newid y dyddiad yn y dyddiadur poced gan fod hwnnw wedi ei rwymo, a'r gost o'i ail-wneud yn ormodol.
"Yn amlwg rydyn ni'n grac iawn am y peth, ond rydym dal yn hyderus y bydd y dyddiaduron yn barod ar amser ac yn cyrraedd y siopau yn ystod wythnos gyntaf Gorffennaf."
Mae llefarydd ar ran Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod "wedi ystyried goblygiadau ymarferol symud yr ŵyl banc yma".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2017
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2017