'Tabŵ canser y fron yn gallu ynysu menywod du'

  • Cyhoeddwyd
Bami AdenipekuFfynhonnell y llun, Bamidele Adenipeku
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Bamidele Adenipekun wybod fod ganddi ganser y fron yn 2014

Mae menyw a gafodd ganser y fron yn dweud bod pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn gallu teimlo'n "ynysig" ar ôl cael diagnosis.

Yn ôl Bamidele Adenipekun, 42 o Abertawe, dyw'r mater ddim yn cael ei drafod yn agored ymysg pobl ddu "oherwydd ofn", a gall hynny arwain at broblemau ôl-ofal.

Dywedodd Cancer Research UK bod angen mwy o ymchwil "er mwyn deall pam fod canser yn parhau'n dabŵ i rai pobl".

Mae nifer y bobl sy'n sgrinio'r fron yn y cymunedau hyn yn y DU yn is na'r cyfartaledd, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Ms Adenipekun ei bod yn "rheol anysgrifenedig" o fewn ei chymuned bod salwch fel canser yn cael ei gadw "o fewn y teulu a'ch bod chi ddim yn ei rannu".

"Mewn llefydd fel Cymru, ble ry' chi yn y lleiafrif, dyw siarad am eich profiad o ganser ddim y ffordd ry' chi am gael eich gweld," meddai.

"Mae 'na resymau diwylliannol a theimladau o gael eich camddeall sy'n gallu rhedeg yn eitha' dwfn."

Cafodd Ms Adenipekun wybod fod ganddi ganser y fron yn 2014, ond mae'n dweud fod siarad am fronnau yn rhywbeth "personol iawn" a "ddim y peth i'w wneud".

Dyw rhai cymunedau "ddim hyd yn oed yn dweud y gair 'canser'", meddai Heather Nelson o elusen BME Cancer Voice.

Ffynhonnell y llun, Bamidele Adenipekun
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw chwaer Bamidele Adenipekun, Titi (ar y dde yn y ddau lun), o ganser y fron yn 2017

Dywedodd Ms Adenipekun, sy'n gwirfoddoli gydag elusen Gofal Canser y Fron, bod ei hôl-ofal i'w "ganmol" ond fod hyn yn "brofiad prin" i ferch o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig.

Roedd gan ei chwaer a'i mam - a fu farw o ganser y fron - ôl-ofal a oedd yn golygu eu bod yn teimlo eu bod wedi'u "heithrio", meddai.

Ar ôl cemotherapi, cafodd ei chwaer ei chyfeirio at wneuthurwr wigiau oedd â gwallt ar gyfer pobl wyn yn unig.

"Fe gollodd ei gwallt, collodd ei bronnau - ac fe gafodd ei chyfeirio at rywun oedd heb unrhyw syniad," meddai.

Dywedodd Sophia Lowes o Cancer Research UK: "Gall siarad am ganser fod yn anodd ac mewn rhai cymunedau a diwylliannau gall fod yn anoddach fyth.

"Er bod sgrinio'n chwarae rhan bwysig wrth wneud diagnosis o ganser yn gynnar, rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o ddiagnosis yn dod gan fenywod sy'n dod o hyd i lwmp neu'n sylwi ar symptomau eraill."