Galw am ehangu cymorth iaith a lleferydd i blant Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gan un o bob 10 plentyn yng Nghymru anghenion iaith a lleferydd, a nifer o'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn cychwyn yr ysgol gyda sgiliau gwannach.
Mae arbenigwyr yn pwysleisio pwysigrwydd annog sgiliau cyfathrebu o oed cynnar.
Er bod cymorth ar gael i ardaloedd tlotach, mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yn dweud bod angen i bob plentyn yng Nghymru gael y cymorth yma.
Mae Lowri Burgess yn therapydd iaith a lleferydd gyda Dechrau'n Deg - cynllun i annog datblygiad plant, gyda phwyslais ar sgiliau cyfathrebu - yng Ngwynedd.
Dywedodd: "Mae datblygiad iaith yn rhywbeth mor hanfodol ar gyfer bywyd, ar gyfer datblygiad emosiynol, ymddygiad, iechyd meddwl, gallu cymdeithasu, parodrwydd i'r ysgol ac yn bellach 'mlaen hefyd, bywyd gwaith.
"O fewn Dechrau'n Deg, mae ganddon ni therapydd iaith a mynediad at lot o grwpiau sy'n cefnogi gwahanol agweddau o ddatblygiad, efo ffocws mawr ar ddatblygiad iaith yn amlwg.
"Mae 'na ymwelwyr iechyd sy'n eu gweld nhw'n fwy aml, ac mae 'na dîm cefnogi teulu, gweithiwr datblygiad cynnar sydd eto'n helpu yn y cartrefi i ddatblygu iaith a chyfathrebu plant.
"Ond yn anffodus dydy hynny ddim ar gael ym mhob ardal yng Nghymru ac ella bod yr angen yn dal yn yr ardaloedd hynny."
'Cyfle i siarad ag eraill'
Mae Bethesda yng Ngwynedd yn un o sawl ardal yng Nghymru sy'n rhan o gynllun Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Yno mae yna therapydd iaith benodol yn gweithio gyda'r plant a'r bobl ifanc, ac mae 'na nifer o grwpiau yn cael eu cynnal yn wythnosol i deuluoedd a gofalwyr.
Dywedodd Hayley Jones, sy'n fam i ddau ac yn mynd i rai o'r grwpiau ym Methesda: "Wnaethon ni ddechrau dod pan oedd Mila yn fabi - oedd o'n grêt ar gyfer fi a hi.
"Roedd o'n gyfle i siarad efo rhieni eraill sydd yn yr un cwch.
"Mae'n siŵr bod nhw'n dechrau datblygu mewn oed mor gynnar â hyn."
Yn ôl mam arall, Siwan Tomos: "Cynhara'n byd gorau'n byd i gael y sgiliau yma.
"Dwi'n gallu gweld gwahaniaeth yn fy mhlentyn o ddydd i ddydd achos o'r profiadau mae'n cael mewn llefydd fel hyn. Maen nhw'n newid mor gyflym yn yr oedran hyn.
"Ni'n trio gwneud yn siŵr bod ni'n hala amser yn canu, siarad gyda fe, a darllen yn bendant, i wneud yn siŵr bod o'n caffael yr iaith ac yn cael profiad cadarnhaol o ddysgu iaith."
Mae Miriam Lloyd Williams yn ymwelydd iechyd yn ardal Bethesda ers sawl blwyddyn.
Dywedodd: "Dwi'n teimlo bod o'n bwysig datblygu iaith babis cyn bod nhw'n cael eu geni. Maen nhw'n clywed yn bol Mam pan mae Mam yn bum mis yn feichiog.
"'Da ni'n gwneud ymweliadau yn y tai. Gan fod ni'n gweld y teuluoedd yn weddol aml, mae 'na asesiadau yn aml. Mae hynny'n gadael ni wybod os oes 'na oediad bach ac felly 'da ni'n gallu rhoi mewnbwn yn ifanc os ydy'r plentyn angen."
'Canlyniadau gwych'
Yng Nghymru a Lloegr, mae gan un o bob 10 plentyn anghenion iaith a lleferydd.
Mae dros hanner sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn cychwyn yn yr ysgol â sgiliau tlotach, ac mae rhai sydd â geirfa wael yn bump oed yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl fel oedolion, a ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddiwaith.
Mae Alison Stroud, o Goleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd yng Nghymru, yn dweud fod angen i'r gefnogaeth sydd yn ardaloedd Dechrau'n Deg fod ar gael yn ehangach.
"Lle 'da ni wedi rhoi'r gefnogaeth therapi iaith a lleferydd yma i'r timau o gwmpas plant, 'da ni wedi darganfod fod 70% yn barod am yr ysgol," meddai.
"Felly 'da ni'n cael canlyniadau gwych yn yr ardaloedd yma lle mae 'na arian wedi'i dargedu'n benodol.
"Yr hyn 'da ni'n galw amdano nawr yw bod hynny'n cael ei ehangu ymhellach, fel nad ond yr ardaloedd penodol yma sy'n elwa, ond fod 'na gymorth yna i fwy o'n plant ni. Mae o mor bwysig cyn eu bod nhw'n cyrraedd yr ysgol."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wrthi'n gweithio ar strategaeth newydd ar gyfer datblygu iaith a lleferydd yn gynnar ac i gefnogi pobl ifanc sydd ag anawsterau, a hynny mewn cydweithrediad â therapyddion y Coleg Brenhinol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd22 Medi 2015