ACau Plaid Cymru ddim eisiau aildderbyn Neil McEvoy

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil McEvoy ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad cyn cael ei ddiarddel o'r blaid

Mae BBC Cymru'n deall bod Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn gwrthwynebu cais Neil McEvoy i ailymuno â'r blaid.

Mae Newyddion 9 wedi gweld dogfen sy'n amlinellu'r honiadau a arweiniodd at Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn ei ddiarddel o'r grŵp yn y Senedd y llynedd.

Dywedodd Mr McEvoy nad oedd yn gallu ymateb i'r honiadau oherwydd cyfrinachedd gwrandawiad ei apêl.

Mae BBC Cymru'n deall bod y panel oedd yn ystyried ei apêl wedi cael ei ddiddymu o achos yr hyn roedd y blaid yn disgrifio fel "dau achos o ryddhau gwybodaeth heb ganiatâd".

Cafodd Mr McEvoy ei wahardd o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr 2018 gyda chydweithwyr teimlo wedi'u "tanseilio ac yn ddigalon".

Fe gafodd yr Aelod Cynulliad dros ranbarth Canol De Cymru yna ei ddiarddel o'r blaid am 12 mis yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad.

Honiadau'n erbyn Mr McEvoy

Gall BBC Cymru ddatgelu honiadau ynglŷn â faint mae'r berthynas rhwng Mr McEvoy ac Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi dirywio rhwng 2016 a 2018.

Mewn tystiolaeth sydd wedi'i chyflwyno at Bwyllgor Gwaith y blaid, yn egluro'r penderfyniad i'w ddiarddel o'r grŵp, maen nhw'n honni bod Mr McEvoy wedi:

  • Bygwth ymddiswyddo yng nghyfarfod grŵp cyntaf Plaid Cymru wedi etholiad 2016;

  • Gwneud cyhuddiad di-sail bod yr arweinydd ar y pryd, Leanne Wood, wedi dweud wrth y grŵp bod pobl oedd ddim yn wyn ddim yn cael gwneud cyfweliadau adeg etholiad San Steffan;

  • Cyhuddo cydweithiwr o hiliaeth yn seiliedig ar honiad anwir;

  • Tanseilio aelod o staff mewn ebost gyda newyddiadurwr;

  • Mabwysiadu tôn ymosodol;

  • Wedi cyflwyno Cais Testun am Wybodaeth i Ms Wood, Rhun ap Iorwerth, Dai Lloyd a Bethan Sayed yn gofyn am "yr holl ddata personol amdanaf i";

  • Gwneud i staff deimlo'n anghyfforddus.

Maen nhw'n dweud nad yw'r rhestr hon yn "gyflawn" a bod achlysuron eraill pan glywodd y brif chwip bryderon gan staff am ymddygiad Mr McEvoy.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Neil McEvoy wedi cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru ers 2016

Wrth ymateb i'r honiadau, dywedodd Mr McEvoy: "Nid wyf yn gallu gwneud sylw gan fy mod yn parchu cyfrinachedd y broses [o'r apêl]."

Mae Heledd Gwyndaf, sy'n aelod o Blaid Cymru, yn amddiffyn hawl Mr McEvoy i ail-ymuno â'r blaid.

Dywedodd wrth BBC Cymru: "Mae Neil McEvoy yn Aelod Cynulliad craff, gweithgar, egwyddorol ac effeithiol iawn; ac os ydy Plaid Cymru yn edrych i ennill yr Etholiadau Cynulliad nesaf yn 2021 a bod Adam Price yn mynd i fod yn Brif Weinidog Cymru, yna dwi'n meddwl bod rhaid iddyn nhw gael Neil McEvoy 'nôl fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

"Ond y gwir stori fan hyn yw pam fod y stori hyn wedi cael ei rhyddhau i'r wasg... ac i ba bwrpas?"

'Rhyddhau gwybodaeth heb ganiatâd'

Bu adroddiadau'r wythnos ddiwethaf fod ei apêl wedi cael ei drafod gan y blaid ond nad oedd penderfyniad.

Ddydd Gwener, dywedodd Plaid Cymru: "Estynnir gwahoddiad i'r Pwyllgor Gwaith i ddiddymu'r pwyllgor o ran delio gyda chais Mr McEvoy, ac apwyntio aelodau newydd a all ystyried y cais o'r newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heledd Gwyndaf bod Neil McEvoy yn AC "craff, gweithgar, egwyddorol ac effeithiol iawn"

Dywedodd llefarydd hefyd ar ran y Cadeirydd Pwyllgor Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau: "Rydym yn difaru dau achos o ryddhau gwybodaeth heb ganiatâd sydd wedi digwydd yn achos cais Mr Neil McEvoy AC i ail ymuno hefo'r blaid, sydd dan ystyriaeth y pwyllgor ar hyn o bryd."

Mae BBC Cymru yn deall bod Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn erbyn ei gais, er dydy'r arweinydd Adam Price ddim wedi bod yn rhan o unrhyw drafodaeth rhwng ACau.

Dywedodd un AC wrth y rhaglen y byddai'n "anymarferol" i Mr McEvoy ail-ymuno â'r blaid ac nid y grŵp yn y Cynulliad.