Carwyn Jones: 'Llanast' San Steffan yn hwb i annibyniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r "llanast" yn San Steffan yn gwneud pobl yn chwilfrydig am annibyniaeth i Gymru, yn ôl cyn-brif weinidog Cymru Carwyn Jones.
Bydd Mr Jones yn cymryd rhan mewn dadl a drefnir gan grŵp sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Fe fydd yn dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, ond dywedodd wrth BBC Cymru fod cyflwr y llywodraeth yn Llundain yn gyrru'r ddadl.
Denodd gorymdaith dros annibyniaeth yng Nghaerdydd dyrfa fawr ym mis Mai.
'Chwilfrydig, nid ffafriol'
Dywedodd Mr Jones, a ymddiswyddodd fel prif weinidog y llynedd, fod "rhywfaint o newid" wedi bod yn agwedd y Cymry ynglŷn ag annibyniaeth.
"Rwy'n credu bod pobl yn chwilfrydig yn hytrach na ffafriol, oherwydd mae yna lawer o faterion y byddai angen eu goresgyn," meddai.
Dywedodd fod "pobl na fyddwn i wedi meddwl" wedi dweud wrtho ei fod yn syniad "gwerth edrych arno".
"Mae hyn i gyd i wneud â'r trafferthion yn San Steffan mewn gwirionedd - dyna sy'n ei yrru," meddai Mr Jones.
"Mae pobl yn teimlo eu bod wedi colli ffydd yn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan."
Ond dywedodd ei bod yn bwysig bod "gonestrwydd" o ran yr hyn mae annibyniaeth yn ei olygu.
Dywedodd yr AC dros Ben-y-bont ar Ogwr nad oedd yn mynd i ddadl YesCymru "i ddadlau'r achos dros annibyniaeth, ond i fynd yno i esbonio'r rhwystrau ymarferol sy'n sefyll yn y ffordd".
Pan ofynnwyd iddo beth oedd y rhwystrau, ac os oedd ei ymlyniad emosiynol at Brydain yn un, atebodd: "Na, mae'n ymarferol yn bennaf.
"O fy safbwynt i, rwy'n Gymro balch, ac yn credu mai'r ffordd orau o wasanaethu Cymru yw bod o fewn undeb y DU - nid yr undeb presennol, rwy'n credu bod angen gwneud llawer o waith i'w wneud yn fwy cyfartal na mae' e nawr.
"Dydw i ddim yn gweld pa fanteision fyddai annibyniaeth yn ei roi i ni os ydw i'n onest.
"Fyddai'n gwneud i mi fod yn fwy o Gymro? Na."
'Llai o arian'
Dywedodd Mr Jones bod pobl yn awgrymu Iwerddon fel esiampl, ond ei bod wedi cymryd "70 mlynedd i gyrraedd lle mae hi, a chael rhyfel sifil mawr adeg ei eni - un gellid dadlau sy'n parhau hyd heddiw".
"Heb os, byddai gennym lai o arian. Mae llawer o wledydd yn rhedeg diffyg ariannol wrth gwrs, ac ni allem newid y sefyllfa yna yn y tymor byr," meddai.
"Mae rhai pobl yn dweud ei fod yn gyfle i ni wneud cytundeb ar wahân gydag Ewrop, a chael mynediad i'r farchnad sengl. Lloegr yw ein marchnad fwyaf.
"Does dim llawer o bwynt mewn cael mynediad i'r farchnad sengl a darganfod na allwn allforio i Loegr."
Ychwanegodd: "Rwy'n credu ei bod yn bwysig cael y dadleuon hyn ond mae'n bwysig bod y ddadl yn digwydd rhwng pobl sydd â safbwyntiau gwahanol."
Dywedodd Siôn Jobbins o YesCymru fod y sefydliad yn "falch iawn" bod y cyn-brif weinidog yn cymryd rhan.
Honnodd, beth bynnag yw barn pobl, ei fod yn "gwestiwn sy'n mynd i lanio ar ein côl ni yn yr ychydig flynyddoedd nesaf" gan ddyfalu y gallai fod pleidlais annibyniaeth lwyddiannus yn Yr Alban a phleidlais i uno Gogledd Iwerddon â Gweriniaeth Iwerddon yn y dyfodol.
"Byddem mewn sefyllfa lle byddai gennym weddill y DU, sef Cymru a Lloegr yn y bôn, ac o dan y sefyllfa honno ni allaf weld sut y gall datganoli oroesi," meddai.
"Ar hyn o bryd mae Cymru yn un o'r rhanbarthau tlotaf, yn yr ystyr economaidd yn Ewrop, o dan reolaeth San Steffan.
"Rydym yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw oherwydd ein bod yn cael ein llywodraethu gan San Steffan."
'Gwybod maint y dasg'
Ond dywedodd Mr Jobbins ei fod yn anghytuno â honiad Mr Jones y byddai Cymru'n dlotach fel gwlad annibynnol.
"Ni allaf weld sut y gall unrhyw un wneud yr achos, y byddem yn dlotach ein byd na phe baem yn annibynnol," meddai.
"Fel cenedlaetholwr o Gymru dydw i ddim yn bwriadu codi ffiniau. Byddwn yn rhagweld symud nwyddau a phobl yn rhydd."
Dywedodd fod YesCymru yn "fudiad gwleidyddol sydd ddim yn perthyn i blaid" gyda'r "unig nod i gyflwyno'r achos dros Gymru annibynnol".
"Rydym yn gwybod maint y dasg sydd o'n blaenau," meddai Mr Jobbins.
"Rydym yn erbyn canrifoedd o ddiffyg hunan-gred, a hefyd polisïau economaidd ac ideoleg sydd wedi lliniaru yn erbyn creu economi a chymdeithas gryfach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2019