Cyflwyno cwricwlwm newydd yn 'gambl' yn ôl arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Athrawes yn dysguFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd drafft o'r cwricwlwm newydd ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill

Mae cyflwyno cwricwlwm newydd yng Nghymru yn "gambl", yn ôl arbenigwr addysg.

Rhybuddia'r Athro Dylan Wiliam na allai'r cynllun newydd lwyddo heb roi mwy o amser i athrawon y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Mae disgwyl i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ac ym mlwyddyn saith yn 2022, cyn symud i fyny at flwyddyn 11 erbyn 2026.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams ei bod hi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anodd i arafu'r broses o gyflwyno'r newidiadau.

Cafodd drafft o'r cwricwlwm newydd ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill.

Dywedodd y Gweinidog Addysg ar y pryd y byddai'r cynllun newydd yn "newid mawr o ran diwylliant" gan chwalu ffiniau traddodiadol rhwng pynciau.

Ffynhonnell y llun, Dylan Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna "bosibilrwydd mawr y gallai'r cwricwlwm newydd fod yn fethiant llwyr", yn ôl yr Athro Wiliam

Nod y cwricwlwm yw ailystyried sut y dylai pobl ifanc gael eu haddysgu, ac mae'n cyflwyno chwe maes dysgu eang.

Mae disgwyl i ysgolion ledled Cymru ddefnyddio'r amser yma i baratoi ar gyfer cyflwyno'r newidiadau.

'Methiant llwyr'

Ychwanegodd yr Athro Wiliam, sydd hefyd yn ymgynghorydd addysg rhyngwladol: "Dwi'n meddwl ei fod yn gam dewr iawn a dwi'n deall ei bod hi [Ms Williams] wedi arafu'r broses.

"Ond dwi'm yn meddwl bod y broses wedi cael ei arafu hanner digon i sicrhau ei fod yn llwyddo.

"Heb gynnydd sylweddol yn yr amser sydd ar gael i athrawon y tu allan i'r ystafell ddosbarth, fedra i ddim gweld sut y gallai weithio.

"Mae yna ddiffyg eglurder yn y cwricwlwm ac felly mae'n rhaid i athrawon ddatrys problemau dros eu hunain. Os nad oes amser ar gael iddynt yna mae'n debygol y bydden nhw'n parhau i wneud yr hyn maen nhw'n gyfforddus yn ei wneud.

"Mae Cymru wir yn cymryd gambl. Mae'n bosib y gallai fod yn llwyddiant os yw'r camau iawn yn cael eu cymryd, tra bod yna hefyd bosibilrwydd mawr y gallai fod yn fethiant llwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd arafu'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn benderfyniad "anodd", yn ôl Kirsty Williams

Dywedodd Ms Williams wrth raglen Eye on Wales ei bod hi'n "cydnabod yr angen i sicrhau fod gweithwyr addysg yn barod ar gyfer y newidiadau".

"Rydw i wedi gwneud y penderfyniad anodd i arafu'r broses o gyflwyno'r cwricwlwm er mwyn rhoi'r amser angenrheidiol i bob ysgol fedru ymgymryd â'r broses."

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £24m mewn hyfforddiant ar gyfer athrawon yng Nghymru, a £40m pellach er mwyn helpu ysgolion gyflwyno'r cwricwlwm newydd.

Mae'r llywodraeth hefyd yn ystyried cyflwyno diwrnod ychwanegol o hyfforddiant mewn swydd er mwyn cynnig cefnogaeth broffesiynol i athrawon.

Bydd rhaglen Eye On Wales i'w chlywed ar BBC Radio Wales am 18:30 dydd Mercher, 19 Mehefin.